Gallai'r ganolfan fod yn gartref i dîm hoci iâ Devils Caerdydd
Mae cynllunwyr wedi rhoi sêl bendith i gylch iâ newydd fydd a lle i 3,000 o bobol.

Bydd y gwaith o adeiladu’r ganolfan £16 miliwn yn dechrau ym mis Awst, ac fe allai agor y flwyddyn nesaf.

Bydd dau gylch iâ yn yr adeilad, ac fe allai llethr sgïo a chanolfan siopa gael eu hychwanegu’n ddiweddarach.

Gallai’r ganolfan newydd fod yn gartref i dîm hoci iâ Devils Caerdydd.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys tŵr 32 llawr a allai gynnwys swyddfeydd a fflatiau, a gwesty moethus.

Gallai adeiladu’r ganolfan olygu bod hyd at 90 o swyddi newydd yn cael eu creu.

Cafodd y cynlluniau sêl bendith Cyngor Caerdydd ddoe.

Cafodd y ganolfan wreiddiol ei chau yn 2006.