Mae chwaraewyr tîm pêl-droed Abertawe wedi cael eu brechu yn erbyn y frech goch.

Dywedodd y clwb eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad ar ôl i nifer yr achosion godi’n uwch na 1,000.

Mae nifer yr achosion bellach wedi cyrraedd 1,011, ac mae mwy nag 800 o’r achosion yng nghyffiniau Abertawe a’r ardaloedd lle mae nifer helaeth o’r chwaraewyr yn byw.

Mae chwaraewyr y tîm cyntaf a’r academi wedi cael eu brechu.

Yn dilyn y cyhoeddiad, apeliodd capten y clwb, Garry Monk ar rieni i frechu eu plant, ac fe ddywedodd fod ei ferch ddwy oed eisoes wedi derbyn MMR.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “O ystyried bod y clwb o fewn rhanbarth yr achosion, wnaethon ni weld pa chwaraewyr oedd heb dderbyn ail frechlyn.”

Ychwanegodd fod chwaraewyr yr academi wedi derbyn llythyron am y brechlyn.

‘Dim ymchwiliad cyhoeddus’

Yn y cyfamser, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn bwriadu cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r achosion o’r frech goch ar ol i’r Ceidwadwyr yng Nghymru alw ar Mark Drakeford i wneud hynny ddoe.

Dywedodd llefarydd: “Fe fydd Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrth reswm yn edrych ar ba wersi y gellir eu dysgu o’r achosion diweddar o’r frech goch, ond does dim cynlluniau i gynnal ymchwiliad cyhoeddus.

“Does yna’r un bwrdd iechyd wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru gyda phryderon am gost yr achosion.

“Rydyn ni’n disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd ymateb i anghenion iechyd newidiol y boblogaeth ac, yn y sefyllfa yma, i ymateb yn briodol i’r achosion.”