Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru, Robin McBryde, wedi enwi ei garfan hyfforddi o 32 dyn ar gyfer taith y cochion i Japan dros yr haf.
Bydd Cymru’n wynebu Japan yn Osaka ar Fehefin 8 ac yn Tokyo ar 15 Mehefin.
Mae 15 o’r chwaraewyr yn dod o’r garfan fuddugoliaethus ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni tra bod 11 o chwaraewyr sydd eto i ennill cap. Bydd y garfan hyfforddi yn cael ei thorri i 27 chwaraewyr cyn mynd ar y daith.
Yn y rheng flaen mae Ryan Bevington (Gweilch), Ken Owens (Y Sgarlets), Scott Andrews (Gleision) a Craig Mitchell (Exeter Chiefs) ynghyd â Rhys Gill (Saracens), Sam Hobbs (Y Gleision), Scott Baldwin (Gweilch) a deuawd y Scarlets Emyr Phillips a Rhodri Jones.
Mae Bradley Davies yn dychwelyd o anaf i gael ei enwi yn y garfan ac yn ymuno a’i gyd-chwaraewr gyda’r Gleision, Lou Reed.
Mae Andrew Coombs (Y Dreigiau) a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Iwerddon ym mis Chwefror, yn cael ei gynnwys ynghyd â James King (Gweilch).
Mae Aaron Shingler a Rob McCusker o’r Scarlets wedi eu cynnwys ynghyd â thriawd di-gap Josh Navidi ac Andries Pretorius o’r Gleision a Dan Baker o’r Gweilch.
Lloyd Williams (Gleision) a Tavis Knoyle a Aled Davies o’r Scarlets fydd y mewnwyr a’r maswyr fydd Rhys Priestland (Scarlets) a Dan Biggar (Gweilch).
“Rydym wedi dewis carfan gyda’r cymysgedd cywir o brofiad ac ieuenctid ac mae hwn yn gyfle gwych i chwaraewyr wneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai Robin McBryde.
“Mae’n gyfle i rai chwaraewyr brofi’r amgylchedd rhyngwladol am y tro cyntaf ond mae hefyd yn gyfle i chwaraewyr sydd wedi cymryd rhan o’r blaen i gymryd y cam nesaf wrth i ni ddatblygu arweinwyr o fewn y garfan.
Mae Robin McBryde yn cymryd yr awenau gan fod Warren Gatland, Rob Howley a Neil Jenkins o’r tîm hyfforddi yn rhan o daith y Llewod i Awstralia.
Carfan Hyfforddi Cymru:
Blaenwyr: Ryan Bevington (Gweilch), Rhys Gill (Saracens), Sam Hobbs (Y Gleision), Ken Owens (Y Sgarlets), Emyr Phillips (Y Sgarlets), Scott Baldwin (Y Gweilch), Scott Andrews (Gleision), Craig Mitchell (Exeter Chiefs), Rhodri Jones (Scarlets), Bradley Davies (Gleision), Lou Reed (Y Gleision), Andrew Coombs (Y Dreigiau), James King (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Dan Baker (Gweilch), Rob McCusker (Scarlets), Andries Pretorius (Y Gleision), Josh Navidi (Y Gleision).
Cefnwyr: Lloyd Williams (Gleision), Tavis Knoyle (Y Sgarlets), Aled Davis (Y Sgarlets), Rhys Priestland (Y Sgarlets), Dan Biggar (Gweilch), Scott Williams (Y Sgarlets), Ashley Beck (Gweilch), Owen Williams (Gleision), Jonathan Spratt (Y Gweilch), Dafydd Howells (Y Gweilch), Liam Williams (Y Sgarlets), Harry Robinson (Y Gleision), Tom Prydie (Y Dreigiau), Steven Shingler (Gwyddelod Llundain).