Mae Gŵyl y Gelli’n wedi dechrau yn y Gelli Gandryll, Powys. Mae’r ŵyl lenyddol yn denu tua 80,000 o bobl yn flynyddol, ac yn eu mysg eleni bydd yna ‘flogwyr byw’ Golwg360 yn dod a phytiau o newyddion a sylwadau o’r ŵyl i chi. Sian Gwenllian sydd yno dros y penwythnos cyntaf…
Sadwrn, 29 Mai
19.00
Gwynt yn codi. Anodd dilyn y sgwrs. Holwr yn trin y peth fel sgwrs bersonol ond doniolwch naturiol Doyle yn plesio’r gynulleidfa o gannoedd. Dyma fy mlog olaf. Ffwrdd a mi i ddarllen a chnoi cil.
17.58
Syniad o garu gwlad yn chwerthinllyd iddo er fod pwysau i fod felly yn Iwerddon. Ond mae’n falch fod ganddo basport Gwyddelig ac mae’n fwy cyfforddus gyda Werddon rwan nag yr oedd 20 mlynedd yn ol. Y ddeuoliaeth ryfedd yn ei gymeriad?
17.45
Mynd mewn i sesiwn Roddy Doyle y nofelydd Gwyddelig. Sôn am ddylanwad y ffilm The Quiet Man ar ei nofel ddiweddara The Dead Republic.
16.30
Crwydro eto. Prysur iawn pnawn ma. Rhesi o bobol ym mhob man. Anodd gwrthod temtasiwn i brynu llwythi o lyfrau.Codi’n braf. Ychydig ynghynt cael ein holi gan Ffion Dafis ar gyfer Radio Cymru. Chwilio am Gymry Cymraeg oeddan nhw. Holi barn y pyntars. Pawb o’n cwmpas yn meddwl ein bod yn bwysig!
14.56
Annisgwyl o ddifyr a pherthnsol.
Mae o’n trafod sut y plethodd rhyw i’r llyfr.Tair o ferched 17 oed yn y rhes o’n blaenau yn deall be ma o’n ddeud. Dweud fod pornograffi ar y we, sef ffynhonell gwybodaeth y rhan fwyaf o bobol ifanc am ryw, yn rhoi darlun negyddol ac anghywir am y profiad rhywiol.
14.42
Rich and Mad ydy llyfr William Nicholson am gariad yr arddegau. Lot o bobol ifanc a rhieni pobol ifanc yma. Cafodd year awdur ei fagu mewn mynachdy.
Dywed yr awdur 62 oed iddo gael sawl cam gwag wrth chwilio am gariad. WilliamNicholson.com os ydych isho gwybod mwy. Boi hoffus, siarad yn uniongyrchol.Rich a Mad sy’n 17 ydy’r 2 brif gymeriad.
Boi hoffus, siarad yn uniongyrchol.
12.15
Newid hinsawdd yn un o themau amlwg eleni.Ed Miliband yn holi Arlywydd y Maldives pnawn ma. Nofelwyr yn gyndyn i fynd i’r afael a’r pwnc. Tan Solar. Wedi cael Solar ar ol clywed yr awdur ddoe. Am ddiflannu i gornel i’w ddarllen.
11.35
Diogelwch tynn yma ddydd Sul yn sgil ymweliad cyn Arlywydd Pacistan Pervez Musharraf. Mae am geisio cael ei ethol eto.
Henning Mankell, yr awdur o Sweden wedi methu cyrraedd o Balesteina ble mae’n arwain cyrch cymorth.Mae ar gwch yn nyfroedd Israel a bydd yn cael ei weld yn fyw ar sgrin yma yn Y Gelli.
10.40
Martina Cole wedi canslo. Nick Clegg yma fory. Ed Miliband ar y maes. Yn Siop Lyfrau’r Wyl. Llyfrau Bill Bryson yn disgwyl yr awdur draw. Jamie Owen (BBC Wales) yn arwyddo ei lyfr Around Wales. George Alagiah (y newyddiadurwr) yma hefyd.
9.29
Trafodaeth am yr angen i symleiddio’r holl faes. Dw i’n symud yn sydyn o fan hyn at y sesiwn nesaf pan fydd y nofelydd Martina Cole yn trafod ei gwaith. Wedyn William Nicholson ar fywyd y teulu. Roddy Doyle yw ein dewis i gloi’r pnawn. Bydd digon i gnoi cil arno eto heddiw. Pob sesiwn tua awr o hyd.
9.26
Y bore newydd
Christy Moore yn fyw yn y cof a’r newyddion am Iwan Llwyd yn llenwi’r meddwl. Iw Bang oedd o i mi a’r atgof am actio efo’n gilydd yn Siwan ac Esther yn Ysgol Friars Bangor yn llifo’n ôl. Roedd y direidi annwyl yn nodwedd amlwg. Byddai wedi mwynhau neithiwr.
Panad cyn cyfarfod cyntaf y dydd.Glaw. Y newyddiadurwr George Alagiah a panel yn trafod cwmniau bwyd a logos masnach deg. Ai arf marchnata ydy nhw bellach?
Gwener 28 Mai
19.22 ymlaen
McEwan nesa’!
Mewn lle dipyn mwy rwan i wrando ar y nofelydd Ian McEwan yn trafod ‘Solar’ : ei ffuglen am newid hinsawdd. Rhai cannoedd yma.
McEwan yn trafod y paradocs yn ei nofel.Difrifoldeb newid hinsawdd a doniolwch y gwrth arwr.
Mae o’n licio darllen ei waith yn gyhoeddus i gael ymateb.Newydd ddatgelu fod ei lyfr On Chesil Beach am fod yn ffilm gan Sam Mendes. McEwan yn paratoi’r script.
McEwan yn darllen o’i lyfr. Darn doniol am y prif gymeriad yn marw isho pasio dŵr yn yr Arctig.
Ei lyfr diweddara’, Solar, wedi ennill prif wobr sgwennu doniol Bollinger Everyman Woodhouse: McEwan yn cael ei longyfarch yn wresog ar y diwedd.
Rwan am seicoleg!
Noson braf. Bwrlwm yma! Mewn rhes. Oliver James,seicolegydd plant nesaf!
James yn hyrwyddo ei lyfr newydd am fagu plant How Not To F Them Up.Ei neges : fod angen roi magu plant cyn dim arall a gweld pethe o safbwynt y babi. Dim newydd ag awr mwya diflas y dydd!
Oeri yma. Prysur. Christy Moore nesa.
Wrth i newyddion trist iawn ein cyrraedd o Fangor am farwolaeth Iwan Llwyd, dyma ymuno gyda’r Gwyddel chwedlonol. Dyma’r lle iawn i fod heno. Declan Sinnott Moving Hearts ar y llwyfan hefyd. Cyfuniad perffaith yn codi’r ysbryd.
Y clasuron. Cofio Moving Hearts yn y Majestic Caernarfon, canol yr wythdegau.Can newydd am gasglwyr cocos Morecambe yn ein sobreiddio.
Shine On You Crazy Diamond. Nos da.
Gwener 28 Mai
15.00 – Dw i yn Stryd y Castell, Gelli Gandryll. Fan hyn gychwynodd y cwbwl pan agorwyd y siop lyfrau gyntaf gan Richard Booth yn 1962.Roedd newydd raddio o Rydychen ac wrth ei fodd efo llyfrau. Prynodd yr hen sinema a’i llenwi gyda 250,000 o lyfrau: siop lyfrau fwya’r byd. Dechreuodd y casglwyr llyfrau ddod yn eu cannoedd i’r dre farchnad ar ffin Cymru a Lloegr.Erbyn hyn mae yma tua miliwn o lyfrau a daw hanner miliwn i’r dre bob blwyddyn o bob cwr o’r byd.
12.00 – Tro o gwmpas Aberhonddu ac wrth Camlas Brycheiniog. Ar y bws i’r Gelli i gael sbec yno cyn mynd i’r Wyl i weld Peter Lord, Ian McEwan a’r canwr Christy Moore.
17:32 – Lluniau o Ŵyl y Gelli
17:25 – Tu allan i babell fwyd go grand. Dechra gweld mai arwynebol ydy’r gymhariaeth efo’r Steddfod. Mwy o garped. Dim plant. A dim Cymraeg – heblaw am bedair swnllyd o Wynedd! Reit wag yma, a’r paratoi munud dwetha yn digwydd. Dim llawer yn apelio fory tan ddiwedd pnawn. Mynd am Aberhonddu rwan.
16:55 – Dwy stori gawson ni : un am ddynes yn paratoi pryd rhamantus a’r llall am Percy yn canfod rhyfeddodau mewn poced hen got. Clawr y llyfr – llun gwin coch a brie aeddfed. Ffwrdd a mi efo fy nghopi dan fy mraich.
16:16 – Phill Thomas o Age Cymru yn egluro nad ydy’r antholeg o ysgrifau ar y thema o fynd yn hen ddim ar werth. 12,500 copi wedi eu hargraffu ac yn cael eu dosbarthu o law i law. Storiau yn cael eu darllen rŵan.
15:59 – Ah! Llyfr ydy Aged to Perfection. Byddwn yn clywed rhannau ohonno.
15:57 – Tocyn am ddim i ddarlith Aged to Perfection. Sgwennu a phobol mewn oed. Dim yn siŵr pam dwi yma! Llawn dop.
15:19 – Cyrraedd yma mewn heulwen braf ddeng munud yn ôl. Pebyll a stondinau gwyn ar y maes – fatha Steddfodau’r saithdegau. Cerfluniau gwial o bobol yn darllen a gwneud yoga run pryd! Arwydd cyntaf o’r hyn sydd i ddod?!