Roedd aelodau’r band roc Edward H. Dafis yn y gynulleidfa neithiwr i weld pobol ifanc Ceredigion yn perfformio sioe wedi’i hysbrydoli gan eu record ola’.

“Hollol anhygoel,” oedd ymateb y canwr, Dewi Pws, ar ôl gweld y perfformiad cynta’ o Plant y Fflam, sioe ieuenctid Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010.

Roedd Theatr Felin-fach yn llawn dop o rieni, pobol yr ardal a gwesteion arbennig wrth i’r cast o tua 80 gyflwyno cyfuniad o ganu, actio a dawns o dan adain Theatr Arad Goch o Aberystwyth.

“Caneuon gweddol oedden nhw yn y lle cynta’,” meddai Dewi Pws. “Ond mae’r bobol ifanc yma wedi rhoi bywyd newydd ynddyn nhw. Roedd hi’n grêt eu gweld nhw.

“Mae’r hen a’r ifanc wedi dod at ei gilydd.”

Roedd y sioe’n dilyn taith criw o bobol ifanc wrth iddyn nhw chwilio am Y Tir Glas a cheisio dianc rhag oedolion oedd yn cynrychioli’r Brawd Mawr a chariad at arian ac arfau.

Roedd y bobol ifanc wedi bod yn gweithio ers amser y Pasg ar y sioe ac roedd canwr Edward H. Cleif Harpwood yno’n ffilmio’r noson.