Mae cyn bennaeth pwyllgor safonau yn dweud y dylai Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gamu o’r neilltu tros dro.

Yn ôl Syr Alwstair Graham ar newyddion y BBC, fe ddylai David Laws ildio’r swydd nes y bydd ymchwiliad wedi bod i’w gostau seneddol.

Fe gyfaddefodd y gweinidog newydd ei fod wedi cam hawlio lwfansau ar gyfer llety – er mwyn cuddio’r ffaith ei fod mewn perthynas hoyw gyda dyn arall.

Mae AS y Democratiaid Rhyddfrydol tros Yeovil yng Ngwlad yr Haf wedi rhoi’r achos gerbron y Comisiynydd Safonau Seneddol ac wedi addo talu’n ôl beth o’r mwy na £40,000 yr oedd wedi’i gael.

“Fe ddylai gamu o’i swydd wleidyddol hynod sensitif nes bydd yr ymchwiliad wedi bod gan bwyllgor safonau’r senedd,” meddai Syr Alistair.

Mae David Laws yn debyg o ddod dan bwysau i ymddiswyddo, yn arbennig oherwydd mai ef sy’n gyfrifol am raglen doriadau gwario’r Llywodraeth glymblaid newydd.

Llun: David Laws (Gwifren PA)