Fe roddodd China awgrym y byddai’n fodlon gweithredu yn erbyn Gogledd Korea tros suddo un o longau rhyfel De Korea.

China yw prif gefnogwr traddodiadol y Gogledd ond mae wedi dod dan bwysau i droi tu min ati ar ôl i adroddiad gan arbenigwyr ddweud mai’r Gogledd oedd wedi suddo’r Cheonan gan ladd 46 o forwyr.

Yn ôl yr adroddiad, roedd yna dystiolaeth bendant mai torpido o’r Gogledd oedd wedi taro’r llong pan oedd yn agos at y ffin rhwng y ddwy wlad.

Wrth fynd i gynhadledd gyda De Korea a Japan, fe ddywedodd Prif Weinidog China na fyddai hi’n amddiffyn unrhyw wlad oedd yn euog o’r ymosodiad.

Heddiw, fe anfonodd Wen Jibao ei gydymdeimlad at bobol De Korea ac fe ddywedodd ei fod yn gobeithio y byddai’r gynhadledd heddiw’n help i ddod â heddwch i’r ardal.

Llun: Llongau De Korea ger y ffin rhyngddi a’r Gogledd (AP Photo)