Mae dau ddigwyddiad yng Ngogledd Iwerddon wedi codi ofn am ragor o wrthdaro sectyddol a llwythol yn y dalaith.
Fe fu’n rhaid clirio pobol o’u tai mewn stryd yn Derry yn gynnar y bore yma ar ôl i fom ffrwydro y tu llan i swyddfa heddlu.
Mae swyddogion technegol y fyddin yn archwilio car a oedd ar dân yn fuan wedi’r ffrwydrad.
Ym Melffast, mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ladd un o arweinwyr mudiad parafilitaraidd Protestannaidd y Red Hand Commando.
Fe gafodd Bobby Moffat ei saethu ddwywaith yn ei wyneb ddoe o flaen pobol a phlant ar y Shankill Road.
Mudiad Protestannaidd arall, yr Ulster Volunteer Force, sy’n cael y bai am yr ymosodiad sy’n atgoffa pobol o’r gwrthdaro mewnol a oedd yn gyffredin yn nyddiau’r Helyntion.
Ym marn un clerigwr amlwg, parafilwyr sy’n dal i reoli’r strydoedd.
Llun: Murlun gan yr UVF ar y Shankill Road (Asterion CCA2.5)