Mae heddlu’n ofni gwrthdaro rhwng miloedd o brotestwyr hiliol a gwrth-hiliol ynghanol dinas Newcastle.
Maen nhw wedi bod yn paratoi ers dyddiau i wahanu tua 1,000 o aelodau o’r English Defence League a tua 1,300 o gefnogwyr y mudiad Unite Against Fascism.
Yn ôl papur newydd y Guardian, mae’r EDL – sy’n dweud nad ydyn nhw’n hiliol ond yn erbyn Moslemiaeth eithafol – yn cynllunio i greu anhrefn yn ystod yr haf.
Yn y gorffennol, fe gafwyd gwrthdaro treisgar rhwng y ddau fudiad mewn dinasoedd eraill ac fe fu adain ‘Gymreig’ o’r EDL yn ceisio cynnal gorymdeithiau yn Abertawe a Chasnewydd.
Yn ôl Heddlu Northumbria, fe fyddan nhw’n cael cefnogaeth gan bum heddlu arall, gan gynnwys Heddlu’r Met yn Llundain a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.
Fe fydd y peryg mwya’ o wrthdaro tua diwedd taith yr EDL, yn agos at fan casglu’r wrth-brotest.
Llun – o wefan Heddlu Northumbria