Mae un o enwau amlwg byd y ddrama yng Nghymru wedi ymuno gydag ymgyrch i achub un o raglenni pobol ifanc S4C.

“Mae’n gywilyddus fod Uned 5 yn dod i ben,” meddai Linda Brown o gwmni Theatr Bara Caws yng Nghaernarfon mewn neges i grŵp Facebook sydd wedi’i greu i geisio atgyfodi’r rhaglen ieuenctid.

Hyd yn hyn, mae mwy na 200 o bobol wedi ymuno gyda’r grŵp ‘Dewch ag UNED 5 yn ôl.’ Mae’r rhaglen ola’n cael ei darlledu ddydd Sul.

“Mi fydd colled fawr heb y rhaglen,” meddai Linda Brown yn y neges. “Ydan ni yn colli bob dim sy’n cael ei greu yng Nghaernarfon!!!! A beth am y staff druan – nifer fawr yn colli eu gwaith. Meddwl amdanoch xx.”

Mae ei neges yn ymddangos ymhlith llawer o negeseuon eraill sy’n beirniadu’r penderfyniad i ddod â’r rhaglen i ben ac yn sôn am “golled” i “ddarlledu Cymraeg” ac i “bobol ifanc Cymru”.

Caerdydd, Caerdydd

“Mae bob dim yng Nghaerdydd – rydan ni ella am golli Barcud hefyd,” meddai Linda Brown wrth Golwg360.

“Dw i’n teimlo’n ofnadwy o drist ein bod ni’n colli adnoddau a phobol yng Nghaernarfon. Doedd dim byd yn bod hefo’r rhaglen, roedd plant ac oedolion yn ei mwynhau.”

Roedd y rhaglen hefyd wedi rhoi cyfle i nifer o gyflwynwyr ifanc, meddai.

‘Trist’

Mae sefydlwyr y grŵp ar Facebook yn datgan ei bod yn ‘drist ‘ gweld Uned 5 yn dod i ben.

Maen nhw’n dweud bod symud y rhaglen i ddydd Sul wedi bod yn hoelen yn ei harch hi ac yn ar S4C i’w hatgyfodi.

Ymhlith rhai o enwau’r adnabyddus y mae’r rhaglen wedi’i feithrin ar draws y blynyddoedd mae Gaynor Davies, Garmon Emyr, Nia Dafydd, Rhodri Owen, Heledd Cynwal, Nia Elin, Catrin Mai Lisa Gwilym, Gethin Jones, Mari Lovgreen a llawer mwy.

Fe fydd y rhaglen ddiwethaf yn cael ei darlledu ddydd Sul, 30 Mai 2010. Mae Uned 5 wedi bod ar yr awyr ers Chwefror 1994.

Llun: Grab o’r rhaglen ola’