Hyd y gwn i, dyma’r ddrama hoyw brif ffrwd gyntaf yn y Gymraeg. Wrth gwrs, bu ‘Cwm Gwaun Garw’ hefyd yn llwyddiant, ond drama am lofruddiaeth bachgen hoyw ydoedd yn hytrach na drama hoyw fel y cyfryw. Braf yw gweld dramodydd yn archwilio agweddau hoyw ein hanes llenyddol, megis y Gododdin, yn yr un modd ag y mae’r ffeministiaid wedi’i wneud ers degawdau bellach.
Prif lwyddiant ‘Y Llwyth’ yw bod yr emosiwn mor real, sy’n gyfuniad perffaith o sgript ac actio treiddgar. Deillia fwyafrif o hiwmor a dwyster y ddrama o’r tensiwn sy’n codi o berthyn i fwy nag un llwyth, megis llwyth y Cymry Cymraeg a’r llwyth hoyw, i enwi’r ddau amlycaf. Tynnir sylw at ba mor camp yw ein diwylliant Cymraeg ac fe honnir bod Iolo Morgannwg yn hoyw gan ei fod wedi gwisgo holl ddynion yr Orsedd mewn ffrogiau!
Ond mae Aneirin, y prif gymeriad, yn dychanu’r union ddiwylliant y dyhea fod yn rhan ohono. Dianc i Lundain a wnaeth gan na allai wynebu realiti cymhleth ei fywyd hoyw-Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae ei storïau ysblennydd am ei gampau rhywiol yn porthi’i ego brau ac eto’n bradychu gwacter ei fywyd yno. Symptom o’r tensiwn mewnol hwn yw ymgais Aneirin i ysgrifennu cerdd ar gyfer Coron y Genedlaethol er nad yw’n bwriadu ei anfon gan y cymra’n ganiataol y bydd y sefydliad yn ei wrthod.
Effeithiol hefyd oedd y gerddoriaeth gefndirol a oedd fel trac sain i fywyd Aneirin. Rhoddwyd twist camp ar hen glasuron Cymraeg, megis ‘Y Cwm’, ‘Ysbryd y Nos’ a ‘Chwarae’n Troi’n Chwerw’. Ac roedd yr olygfa yn y clwb nos â’r gerddoriaeth dawns aflafar yn enghreifftio’n wych y rhwyg anferth o fewn y diwylliant, yn enwedig wrth i Aneirin weld rhith o Margaret Williams yn ystod ‘trip’ cyffuriol!
Beirniadwyd y gorddefnydd o Saesneg yn y cynhyrchiad, ond y gwir amdani yw y byddech chi’n clywed llawer llai o Gymraeg ar Charles St ar nos Sadwrn, nag a gafwyd yn ystod y ddrama hon. Ac o ystyried bod un o’r cymeriadau’n ddi-gymraeg, roedd y cydbwysedd yn hynod effeithiol. Realiti’r sefyllfa yw ein bod yn byw mewn gwlad ddwyieithog ac ni fyddai ysgrifennu’r ddrama hon yn uniaith Gymraeg wedi cadw’n dryw at brofiadau personol yr awdur.
Rhaid crybwyll y wefr swreal a gafwyd pan ymddangosodd y côr ar ddiwedd y perfformiad. Braf yw gweld Sherman Cymru’n cydweithio â chorau lleol ym mhob ardal ar y daith. Mewn sawl cyd-destun byddai’r ddyfais hon gam yn rhy bell ond roedd yn gweddu’n berffaith â pha mor camp a dros-ben-llestri oedd y cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd. Yn wir, roedd yn gyffyrddiad clyfar gan ei fod yn chwyddo emosiwn y gynulleidfa gan sicrhau uchafbwynt ysblennydd i ddrama hynod drawiadol. Roedd y gynulleidfa gyfan ar eu traed yn syth er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad diffuant i bawb a fu ynghlwm â’r cynhyrchiad.
Yn bersonol, y rhannau mwyaf diddorol i mi oedd y drafodaeth ar y tensiwn mewnol rhwng Cymreictod a rhywioldeb a bortreadwyd yn gynnil yng nghymeriad Aneirin – rhywbeth a oedd yn amlwg wedi poeni’r awdur ei hun hefyd. Yn ogystal â mynd ar daith yng Nghymru bydd ‘Y Llwyth’ hefyd yn ymweld â Llundain. A tybed sawl Aneirin fydd yn bresennol yn y gynulleidfa? Oni fydd y neges yno yn fwy dirdynnol fyth?
Yn sicr, y prif lwyth dan sylw yn y ddrama hon yw’r Cymry ond mae’n bwysig sylweddoli bod sawl is-lwyth yn byw yma hefyd. A phan geisia rhywun berthyn i fwy nag un llwyth mae’r tensiynau’n datblygu. Ond yn aml iawn, creu’r tensiwn hwn ein hunain a wnawn o’r tu mewn. Braf felly yw gweld mai neges gadarnhaol a geir ar ddiwedd y ddrama a ategwyd gan gymeradwyaeth angerddol y gynulleidfa, beth bynnag y bo’u rhywioldeb. Gobeithio, felly, y bydd hyn yn hwb i fwy o Gymry hoyw deimlo’n hyderus i fyw’n agored a chofio mai rhywbeth arbennig yw’r fraint o gael perthyn i fwy nag un llwyth.