Mae Prifysgol Bangor yn cael ei beirniadu am beidio mynnu mai siaradwyr Cymraeg sy’n dysgu myfyrwyr am gynhyrchu teledu a newyddiadura.

Yn ddiweddar mae’r Brifysgol wedi hysbysebu am ymgeiswyr i chwe swydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol, gan nodi: “…gwneir o leiaf un o’r penodiadau hyn gyda golwg ar gryfhau darpariaeth Gymraeg yr Ysgol ymhellach.”

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fe ddylai’r Brifysgol fod yn anelu at benodi darlithwyr sy’n medru gweithio yn Gymraeg a Saesneg i’r chwe swydd.

Ar hyn o bryd dim ond tri allan o wyth o ddarlithwyr llawn amser yr Ysgol Astudiaethau Creadigol sy’n medru dysgu’n ddwyieithog.

“Ag ystyried mai ychydig yw’r staff presennol yn yr adran sy’n medru dysgu a gwneud gwaith ymchwil yn ddwyieithog fe ddylai’r holl swyddi newydd yma gael dwyieithrwydd fel sgil angenrheidiol er mwyn unioni’r broblem sy’n bodoli ar hyn o bryd,” meddai Rhys Llwyd, Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith sydd hefyd yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Mae Golwg yn deall bod dau ddarlithydd cyfrwng Cymraeg wedi gadael yr Ysgol, ac yn ôl eu Cynllun Iaith fe ddylai’r Brifysgol benodi darlithwyr dwyieithog i’r ddwy swydd wag.

Ond mae’n debyg fod y swyddi newydd wedi cael eu hailddiffinio fel nad oes angen mynnu’r gallu i siarad Cymraeg.

“Drwy benodi staff sydd ddim yn ddwyieithog y mae’n ddefnydd aneffeithiol o adnoddau gan na fydd yr aelodau hynny o staff yn medru dysgu’r holl fyfyrwyr, dim ond y rhai di-Gymraeg,” meddai Rhys Llwyd.

“Drwy benodi pobol sy’n ddwyieithog rydych chi’n cael aelod o staff all ddysgu mewn dwy iaith, ac felly y maen nhw’n cynnig llawer mwy i’r adran ac i’r Brifysgol yn gyfan.”

‘Maes newydd’

Ond mae’r Brifysgol yn mynnu nad oedd modd hysbysebu am siaradwyr Cymraeg.

“Mae’r swyddi i gyd wedi’u dynodi â’r Gymraeg yn fanteisiol, ac mae’r Ysgol yn awyddus i gael ceisiadau oddi wrth gymaint ag sydd bosibl o bobol sy’n siarad Cymraeg,” meddai llefarydd.

“O gofio mai creadigrwydd digidol yw maes y swyddi, maes newydd o theori academaidd sydd ag ychydig yn unig o arbenigwyr ynddo, penderfynodd yr Ysgol ddewis y categori ‘manteisiol’ yn hytrach na ‘hanfodol’.”

Bos newydd y Theatr Gwynedd newydd

Mi fydd yn rhaid i Brif Weithredwr y theatr newydd sydd i’w chodi gan Brifysgol Bangor yn lle Theatr Gwynedd, fedru siarad Cymraeg.

Mae’r Brifysgol wedi derbyn £15 miliwn o arian y Cynulliad at gost codi’r adeilad newydd gwerth £35 miliwn, a fydd yn ganolfan arloesi artistig a gwyddonol.

Maen nhw’n chwilio am Brif Weithredwr i’w cynllun Pontio a fydd yn frwdfrydig dros yr iaith, “ac os nad yw eisoes yn siarad Cymraeg, dylai fod yn barod i ddysgu”.