Mae Leinster wedi enwi carfan gref i wynebu’r Gweilch yn rownd derfynol y Cynghrair Magners ddydd Sadwrn.
Mae prif hyfforddwr y Gwyddelod, Michael Cheika wedi enwi 18 chwaraewr rhyngwladol yn y garfan 24 dyn ar gyfer y rownd derfynol yn Nulyn.
Mae 14 o chwaraewyr Iwerddon yn rhan o’r garfan sy’n cynnwys Brian O’Driscoll Gordon D’Arcy a Rob Kearney.
Mae’r maswr Jonathan Sexton hefyd ‘nôl yn y garfan ar ôl colli’r rownd gyn derfynol yn erbyn Munster.
Ond ni fydd capten y clwb, Leo Cullen ar gael i Leinster ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.
“Mae’n anodd i Leo gan ei fod wedi brwydro trwy’r tymor ac ein harwain ni’n dda,” meddai prif hyfforddwr Leinster.
Carfan Leinster
Blaenwyr- John Fogarty, Cian Healy, Jamie Heaslip, Nathan Hines, Trevor Hogan, Shane Jennings, Stephen Keogh, Kevin McLaughlin, Sean O’Brien, Malcolm O’Kelly, Mike Ross, Richardt Strauss, CJ van der Linde, Stan Wright.
Cefnwyr- Shaun Berne, Gordon D’Arcy, Girvan Dempsey, Shane Horgan, Rob Kearney, Fergus McFadden, Isa Nacewa, Paul O’Donohoe, Brian O’Driscoll, Eoin Reddan, Jonathan Sexton.