Mae chwaraewr rheng ôl y Gweilch, Filo Tiatia wedi dweud bydd chwarae yn rowndiau terfynol Cynghrair Magners yn dod a’r gorau allan o’r rhanbarth Cymreig.

Bydd y Gweilch yn wynebu Leinster yn Nulyn dros y penwythnos ac maen nhw’n hyderus ar ôl diweddglo cryf i’r tymor arferol.

Ond mae Tiatia, a fydd yn chwarae ei gêm olaf i’r rhanbarth ddydd Sadwrn, yn credu bod y Gweilch yn cadw eu perfformiad gorau nes gêm olaf y tymor.

“Bydd yr achlysur yn ysbrydoli’r chwaraewyr i wneud eu gorau,” meddai Filo Tiatia.

“R’y ni’n edrych ‘mlaen i fynd i Ddulyn. Fe wnaethon ni wthio Leinster yn galed y tro diwethaf i ni chwarae yno.”

Bydd y Gweilch yn ceisio torri gafael y Gwyddelod ar y Gynghrair Magners dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a cheisio cipio eu trydedd bencampwriaeth mewn chwe blynedd yn y broses.

Pe bai’r rhanbarth Cymreig yn gallu ennill y Gynghrair Magners fe fyddai’n deyrnged berffaith i Filo Tiatia wrth iddo ddod a gyrfa lwyddiannus sy’n cynnwys pedair blynedd gyda’r Gweilch i ben.

“Mae yna nifer o newidiadau cadarnhaol wedi bod o fewn y rhanbarth ers i mi gyrraedd. Mae’r Gweilch yn symud ‘mlaen yn bositif yn nhermau ceisio datblygu o fewn y rhanbarth. Mae ‘na fois ifanc cyffrous iawn yn dod trwy’r system,” nododd Tiatia.

Dywedodd y chwaraewr rheng ôl bod ganddo deimladau cymysg wrth i’w yrfa dod i ben.

“Os ydw i’n chwarae yn y rownd derfynol – dyna fydd fy ngêm broffesiynol olaf. Felly mae ‘na deimladau cymysg,” meddai Tiatia.