Mae Caerdydd wedi cychwyn ar y gwaith ailadeiladu ar gyfer tymor nesaf gan ryddhau aelodau o’r garfan a chytuno bod cadw Joe Ledley yn flaenoriaeth i’r clwb.
Mae cytundeb presennol y Cymro yn dod i ben yn yr haf ac fe fydd ganddo’r hawl i adael Caerdydd ac arwyddo gyda chlwb arall am ddim.
Mae’r clwb yn gobeithio cynnal trafodaethau gyda’r Cymro’r wythnos yma, gyda’r bwriad o ddyblu ei gyflog i £10,000 yr wythnos.
Bydd Dave Jones wrth y llyw yn Stadiwm Dinas Caerdydd y tymor nesaf ar ôl iddo ymrwymo ei hun i’r Adar Glas yn dilyn cyfarfod gyda’r bwrdd ddoe.
“Yn ystod cyfarfod ddiweddaraf Jones gyda’r bwrdd, mae’r rheolwr wedi cyflwyno ei syniadau i symud Caerdydd ‘mlaen ar gyfer y tymor nesaf, ac mae cynrychiolwyr y clwb wedi cytuno gydag ef,” meddai’r clwb mewn datganiad.
“O ganlyniad, mae’r clwb yn bwriadu mynd ati i gynhyrchu carfan fydd yn cystadlu am ddyrchafiad eto’r tymor nesaf,” ychwanegodd y clwb.
Rhyddhau
Mae’r clwb wedi cadarnhau bod Peter Enckelman, Warren Feeney, Tony Capaldi, Josh Magennis ac Aaron Morris wedi cael eu rhyddhau.
Mae Riccy Scimeca eisoes wedi gadael y clwb ar ôl gorfod ymddeol yn gynharach yn y tymor oherwydd anaf.
Mae Miguel Comminges wedi cael cynnig cytundeb chwe mis wrth iddo geisio gwella i ffitrwydd llawn.
Mae Caerdydd hefyd wedi gwobrwyo eu chwaraewyr ifanc, Jonathan Meades a Jordan Santiago gyda chytundebau proffesiynol.