Mae Cymro sy’n hyfforddwr pêl droed hynaf y byd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol yn 93 oed.
Roedd Ivor Powell wedi hyfforddi pêl droedwyr ym Mhrifysgol Caerfaddon am 37 mlynedd ar ôl gyrfa chwarae lwyddiannus a oedd yn cynnwys chwarae i Gymru, Blackpool, QPR ac Aston Villa.
Fe gychwynnodd yr hyfforddwr yn ei swydd yn y brifysgol yn 1973, ac mae’n cael ei hamcangyfrif’ iddo hyfforddi tua 4,000 o chwaraewyr yn ystod ei amser yno.
Mae Prifysgol Caerfaddon wedi nodi ei ymddeoliad gyda sefydlu cronfa ar gyfer ysgoloriaethau chwaraeon yn enw’r hyfforddwr.
Er gwaethaf ei ymddeoliad, bydd Ivor Powell yn parhau i wirfoddoli un diwrnod yr wythnos.
“Rwy’n falch iawn o’r hyn rwyf i wedi gwneud. Rydw i wedi bod yn hapus iawn ym Mhrifysgol Caerfaddon,” meddai Ivor Powell.
Gyrfa
Fe gychwynnodd Ivor Powell weithio ym mhyllau glo de Cymru cyn cyrraedd y brig fel chwaraewr.
Enillodd 14 cap i Gymru ac yn 1948 fe dorrodd y record ffi drosglwyddo am gefnwr pan dalodd Aston Villa £17,500 amdano.
Y chwaraewr enwog, Stanley Matthews oedd ei was priodas ar ôl iddynt ddod yn ffrindiau wedi’i gyfnod gyda Blackpool.
Fe gafodd Ivor Powell gyfnodau yn hyfforddi Dinas Caerfaddon a PAOK yng Ngwlad Groeg cyn ymuno gyda Phrifysgol Caerfaddon.