Mae cynllun cymorthdaliadau gan Lywodraeth y Cynulliad i helpu atal pobol rhag colli eu tai wedi ei atal dros dro, datgelwyd heddiw.

Cafodd asiantaethau tai wybod na ddylen nhw dderbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun achub morgeisi tra bod Llywodraeth y Cynulliad yn “ystyried” y ceisiadau sydd eisoes o’u blaen.

Mae nawdd ar gael fel bod asiantaethau yn gallu darparu benthyciadau i dorri taliadau morgeisi pobol sydd mewn trafferthion ariannol.

Mae hefyd yn bosib defnyddio’r arian i brynu tai sydd mewn peryg o gael eu hailfeddiannu fel bod y perchnogion yn cael aros yno fel tenantiaid.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad nad oedd y cynllun, a gafodd ei gyflwyno fel mesur brys yn ystod y dirwasgiad, wedi cael ei ddiddymu.

“Ond rydan ni wedi gofyn i asiantaethau tai atal unrhyw geisiadau newydd am ytro tra ein bod ni’n ystyried y ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno yn barod,” meddai llefarydd.

“Ym mis Ionawr eleni dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywiad, Jocelyn Davies, wrth y Cynulliad nad oedd hi’n gallu parhau i roi blaenoriaeth i’r cynllun achub morgeisi am byth, ond bod adnoddau ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.

“Roedd y cynllun achub morgeisi yn fesur argyfwng yn ystod y dirwasgiad ac mae o wedi atal 600 o oedolion a 300 o blant rhag colli eu cartrefi.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar dai, Peter Black, bod y cynllun wedi bod yn un “effeithiol iawn”.

“Mae pawb yn gwybod bod angen torri gwastraff i helpu gyda’r diffyg ariannol, ond roedd y cynllun yma’n effeithiol iawn,” meddai.

“Mae £9 miliwn o gyllid wedi helpu i gadw cannoedd o deuluoedd yn eu tai.

“Y dewis arall yw straen mawr ar adnoddau awdurdodau lleol, fydd yn costio mwy o arian ac o bosib yn golygu bod y teuluoedd allan ar y stryd.”