Dyn busnes o Nefyn sydd wedi ennill Person Busnes y Flwyddyn Wythnos Busnes Gwynedd.

Fe gafodd Elfed Roberts o Siop farchnad y Madryn, Nefyn y wobr, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Bangor a Magnox North, mewn cinio gala nos Wener.

“Mae Elfed Roberts wedi profi llwyddiant entrepreneuraidd rhagorol dros y chwe blynedd ddiwethaf,” dywedodd Gwyn Jones wrth gyflwyno’r wobr ar ran Rhwydwaith Busnes Gwynedd ym Mhlas Glynllifon.

‘Unfrydol’

“Roedd pawb ar y panel beirniadu yn unfrydol ei fod yn dangos esiampl wych o ran mentergarwch llwyddiannus lleol, nodwedd sy’n hanfodol er mwyn cynnal cymunedau bywiog yng Nghymru,” meddai.

Yn 2004, fe wnaeth Elfed Roberts brynu safle’r hen garej Trenholmes yn Nefyn a’i drawsnewid yn siop farchnad brysur dan frand Londis. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach, bu iddo brynu safle cyfagos a datblygu hwnnw i fod yn brif fferyllfa ardal gogledd Llyn.

Trosiant miliynau

Heddiw mae’n cyflogi 35 o staff (dros 10 yn llawn amser) ac mae ganddo drosiant o £2.5miliwn.

Yn 2009, fe enillodd wobr y siop Londis orau yng Nghymru a daeth yn ail yng nghategori Prydain gyfan.

Ym mis Mai 2010 fe brynodd Elfed Roberts y garej a’r siop Londis yng Nghricieth ac mae cynlluniau i ddatblygu’r safle eisoes ar y gweill.

Ei nod am y deng mlynedd nesaf yw agor mwy o siopau ac ehangu ei bortffolio busnes.