Goroesodd babi 15 mis oed gyda dim ond ambell i friw ar ôl i’w bram rowlio ar drac rheilffordd yn Melbourne, Awstralia a chael ei daro gan drên.
Digwyddodd y ddamwain ar ôl i fam gu’r babi edrych i’r cyfeiriad arall am eiliad. Roedd hi hefyd yn edrych ar ôl ei frawd tair oed.
Mae ffilm y camerâu diogelwch yn dangos y pram yn llithro oddi ar ymyl y platfform wrth i’r trên gyrraedd yr orsaf drenau.
Cafodd ei wthio ymhellach i lawr y trac cyn i’r trên ddod i stop.
Dywedodd y parafeddyg Kate Jessop eu bod nhw’n synnu bod y babi wedi goroesi beth ddigwyddodd.
“Roeddwn i’n meddwl y gwaethaf ac yn dychmygu’r babi dan y trên,” meddai.
Roedd yr achos yn debyg iawn i un arall yn ninas Melbourne y llynedd pan oroesodd babi arall ar ôl i drên daro ei bram.