Mae’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol yn ymchwilio heddiw ar ôl i fabi bum mis oed ddioddef llosgiadau i 40% o’i gorff ar ôl cael ei adael yn yr haul ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn.
Bu’n rhaid i’r babi dreulio dau ddiwrnod yn yr ysbyty ar ôl i swyddog yr heddlu ei weld tra’n cerdded ar hyd traeth Brighton.
Rhyddhawyd y babi o Ysbyty Brenhinol Sirol Sussex ddoe ar ôl – roedd wedi mynd yno mewn ambiwlans bnawn dydd Sul wrth i’r tymheredd gyrraedd 25C.
Roedd y babi a’i fam 29 oed wedi teithio i lawr i’r traeth o Plumstead yn ne ddwyrain Lloegr.
“Mae achos y babi pum mis oed losgodd ar draeth Brighton yn cael ei ymchwilio ar y cyd gan Heddlu Sussex a gwasanaethau cymdeithasol yn Brighton a’r bwrdeistref ble mae’r plentyn yn byw.
“Does neb wedi ei arestio ar hyn o bryd ac mae’r babi yn iawn.”
Dywedodd un llygad dyst, Sarah Bavis, 24 oed, ei bod hi wedi gweld pobol eraill ar y traeth yn gweiddi ar fam y babi.
“Fe wnaeth hi orchuddio’r babi gyda blanced wrth i ferched eraill ddadlau gyda hi ynglŷn â’r llosgiadau.
“Roedd hi’n edrych fel pe bai hi am aros ar y traeth gyda’r babi wedi ei orchuddio er eu bod nhw’n dweud ei fod o angen triniaeth feddygol.
“Dwi’n credu bod un o’r merched wedi galw’r heddlu.”