Mae Abertawe wedi cynnig cytundeb newydd i Leon Britton er mwyn ceisio cadw’r chwaraewr canol cae yn Stadiwm Liberty.
Mae cytundeb presennol Britton yn dod i ben dros yr haf ac fe fydd yn gallu gadael y clwb ac arwyddo gyda chlwb arall am ddim.
Ond mae rheolwr yr Elyrch, Paulo Sousa yn awyddus i gadw un o chwaraewyr mwyaf allweddol y clwb.
Mae Britton wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn awyddus i gael y profiad o chwarae ar y lefel uchaf.
Mae Wigan, Sheffield Utd a Middlesborough wedi dangos diddordeb mewn arwyddo cyn chwaraewr West Ham.
Bydd gan Wigan fantais dros y ddau glwb arall gan eu bod nhw’n chwarae yn yr Uwch Gynghrair.
Fe allai’r cyfle i ymuno gyda’i gyn rheolwr, Roberto Martinez hefyd helpu Wigan i sicrhau ei lofnod.
Cynigion eraill
Mae Abertawe hefyd wedi cynnig cytundebau newydd i Fede Bessone, Albert Serran, Andrea Orlandi, Shaun MacDonald a Jamie Grimes.
Mae cymalau yng nghytundebau Angel Rangel, Cedric van der Gun a Tom Butler wedi ymestyn eu cytundebau presennol.
Mae chwaraewr ifanc y flwyddyn Abertawe, Ashley ‘Jazz’ Richards hefyd wedi arwyddo cytundeb newydd.