Os ydych chi eisiau dianc rhag y tywydd diflas, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi datgelu ble mae’r gerddi gorau i weld blodau’r gwanwyn mewn sioe o liw.

Mae’r elusen cadwraeth yn dathlu Wythnos Coed yn eu Blodau o heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 20) hyd at ddydd Sul nesaf (Ebrill 28), gan annog pobol i fynd allan i’r awyr iach i fwynhau blodau’r gwanwyn.

Mae tymor hirddisgwyliedig y coed yn eu blodau yn dod i’w anterth gyda channoedd o goed ffrwythau, asaleas a llwyni rhododendron yn blodeuo mewn perllannau, gerddi a borderi ym mhob cwr o Gymru.

Mae ymgyrch #GwleddyGwanwyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn annog pobl i rannu lluniau o’r blodau y byddan nhw’n eu gweld ar y coed ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio hashnod #GwleddyGwanwyn.

Dyma enghreifftiau o’r gerddi lle gallwch chi weld yr uchafbwyntiau tymhorol:

Gardd Bodnant, Conwy
Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru – Iolo Penri

Gogledd Cymru

Gardd Bodnant, Conwy

Castell a Gardd y Waun, Wrecsam

Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam

Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn

Plas yn Rhiw, Pen Llŷn

Canolbarth Cymru

Llanerchaeron, Ceredigion

Castell Powis a’i Ardd, Y Trallwng

Gerddi Dyffryn, Caerdydd
Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru – Milly Kelly

De Cymru

Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro

Gerddi Dyffryn, Caerdydd

Tŷ Tredegar, Casnewydd