1. Gwennan Macdonald, Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ceredigion
Taran a Mellten
Mae gen i ddwy gath o’r enw Taran a Mellten. Mae gan Taran flew hir iawn a mae gan Mellten flew byr. Blwyddyn diwethaf fe wnes i dynnu llun ohonyn nhw ac fe wnes i troi hynny mewn i comic.
Yn y comic cyntaf mae dyn drwg wedi dwyn y bwyd cath i gyd! Erbyn hyn rydw i wedi creu 5 comic.
Dwi hefyd wedi gwneud freebies ar gyfer y comic, ac hefyd cymeriadau allan o clai fel bod modd animeiddio nhw i ddod a’r comics yn fyw.
Bydde fi wrth fy modd i ennill er mwyn i Taran a Mellten fod yn enwog.
2. Nancy McKane, Ysgol Gynradd Penboyr, Gorllwein Myrddin
3.Mared Elan Jones, Ysgol Gymraeg Bryniago, Gorllewin Morgannwg
Dyma Dylsi’r Deinocorn!
Creadur bach direidus maint bocs matsys yw Dylsi. Mae’n rhan o deulu anferth o ddeinocorniaid sy’n byw yng ngwelyau y blodau mwyaf lliwgar sydd gan bobl yn eu gerddi.
Pan fo corn Dylsi neu unrhyw Ddeinocorn arall, yn dechrau goleuo mae’n arwydd ei bod yn mynd i droi’n anweledig. Yn anffodus i bawb arall, dyma hoff ddiddordeb Dylsi! Pan fo’n anweledig, mae’n dwlu chwarae triciau ar bobl fel chi a fi. Methu ffeindio eich ffon? Rhywun wedi bwyta’r siocled olaf oedd ar ôl yn y bocs? Deinocorniaid yw’r rhai i’w beio am hyn fel arfer. Ar ôl chwarae triciau o’r fath, does dim yn well gan Dylsi nag eistedd i lawr ar flodyn cyfagos a chwerthin ar bobl yn cyhuddo a beio ei gilydd am bethau maen nhw’n hollol ddieuog o wneud.
Oes ganddoch chi flodau lliwgar yn eich gardd……?!