1. Erin Trysor James-Lynch, Ysgol Gyfun Aberaeron, Ceredigion
Cynthia – merch 14 oed o’r dre yn gorfod aros yn y wlad dros y cyfnod clo cyntaf
Dwi wedi bod yn meddwl ar brydie , beth yffach dwi yn ei wneud fan hyn, mewn bwthyn ar fferm fy yncl? Mae cyfnod clo yn ddigon drwg ond mae’r drewdod fan yma ar lefel arall. Dwi methu credu mod i Cynthia Williams wedi gorfod dod i’r wlad dros y cyfnod clo. ‘Rhai wythnosau Sinthi, dyna’i gyd’ meddai dad. Dwi’n casáu dad yn fy ngalw yn ‘Sinthi’ , mae’n swnio mor sdiwpid, fel neidr meddw yn trio siarad. Roedd e’n gwybod yn iawn na fydden ni nôl yn y dre yn gloi a dau fis yn ddiweddarach rwyf dal yn cael hunllefau yn fy nhywys yn ôl i ben y ddomen i chwilio fy ffôn symudol. Mae’n stori hir ond mae gyda chi a fi ddigon o amser achos does yr un o ni a dim byd gwell i ‘neud.
Roeddwn i’n plygu i lawr i weld y cywion bach , bwndeli melyn ‘pluogfflwff’ ciwt pan syrthiodd fy ffôn llygad , ie, ie fy ‘i-phone’ newydd sbon i’r llawr fel carreg. Dyma beth gefais cyn y cyfnod clo fel anrheg penblwydd cynnar ( neu ffordd gudd dad o fy mherswadio i fynd i’r wlad am ba hyd fyddai’r feirws yma yn dal i fygwth ). Ffiw , roedd popeth yn gyfan ac fel merch gyfrifol mi godais y ffôn a’i roi yn ofalus ac yn gariadus , ydw rwy’n caru fy ffôn, ar bêl hirsgwar o wellt. Yn sydyn yng nghornel fy llygaid gwelais oen bach swci drygionus yn awchu am bach o wellt a’r peth nesa mae’r lleidr bach gwlanog â’r ffôn fel bar o siocled yn ei geg. Edrychodd arnai gan fy herio i ‘w gwrsho a bant a fi fel mellten yn fy nhrwser gwyn H&M ar ei ôl nes mod i’n cael fy hun yn dringo Wyddfa o gaca gwartheg a cheffylau. Edrychodd y chopsen oen arnai yn gariadus cyn gollwng y ffôn mewn i’r slwtch. Haleliwia, cerddodd y cibab bach i ffwrdd, gyda agwedd, gan fy ngadael yn galaru dros fy ffôn am funud cyn mynd ati i dwrio. Diwedd yr hanes oedd y fi Cynthia Williams yn cael strop enfawr a gwrthod cyffwrdd a’r ffôn bellach nes bo fy nhad , oedd yn meddwl fod y cyfan yn reit ddoniol ac yn antur , yn glanhau’r budredd oddi ar fy ffôn. Ond bu rhaid claddu’r ffôn am byth gan na ddeuai yr un sgwrs, ‘Tik Tok’, instagram na iot o ddim arall o galon y creadur bach digidol. Y peth gwaethaf oedd mae’r prif alarwr oedd yr oen digwyddil yn edrych mor ddi euog ar y broses o roddi’r ffôn i orffwys yn ei focs cyn ei ddanfon yn ôl i’r siop lle byddai yna drafodaeth ar beth oedd yn gwynto mor ryfedd ac os oedd yna gorff bochdew ym mola’r bocs. Diolch fyth am yswiriant O2 ac i Hermes am lwyddo i wneud merch o’r dref yn hapus iawn unwaith eto er i mi fod heb ffôn am bedwar diwrnod cyfan , ie, dychmygwch, pedwar diwrnod a fy nau fys bawd ar goll heb eu wyrc owt parhaus.
Mae mor dawel yma, dim siw na miw, mae fel cartref llygod bach. Mae’r we yn warthus, pwy wneud ffrydio byw pan mae’r sgrîn yn rhewi er weithiau mae’n fendith cael peidio gweld gwep un neu ddau o’r athrawon hynny sy’n bodloni rhoi eu camerâu arno. Mae’n grêt cael busnesa a gweld beth sydd yn eu ystafell fyw, corneli heb i clirio, llestri brwnt yn dangos ôl tec-awe ac ambell i botel guinness yn cuddio ar y sillf. Er mae un neu ddau o’r athrawon a’i ystafelloedd fel arddangosfa o Ikea. Mae’n gwaethygu pan mae gan mam a dad eu cyfarfodydd Zoom, ond does gen i ddim llawer o ots am y gwersi. Ond mae’n unig methu siarad dwli gyda fy ffrindiau ac mae sgyrsiau erbyn hyn yn digwydd yn aml rhyngof i a’r gwartheg gyda’r ffens rhyngddo ni. Mae iaith y gwartheg yn iaith ddiddorol ac mae’r fuwch yn gymeriad reit ddoniol. Dwi wrth fy modd yn rhannu jôc neu ddwy gyda nhw , pan does neb yn gwrando. Beth am hon – I ble mae’r fuwch yn methu mynd i amser y cyfnod clo? I weld mwwwfi!!! Pa gêm mae’r fuwch yn hoffi chwarae? Mwwnopoly!!! O leiaf dwi’n cadw’n heini a chael digon o awyr iach oherwydd does dim signal i’r ffôn tan cyrraedd pen y lôn. Mae’r nos mor hir heb fy llechen a fy ffôn fel dwi actiwali wedi cychwyn darllen eto a wedi ymuno gyda’r teulu i chwarae gemau. Mae gweld car erbyn hyn yn gyffro a dyfalu pa liw fydd yr un nesa, gêm oeddwn i’n arfer chwarae yn y car pan oeddwn yn fach i arbed mynd yn sâl dros mam yn y sedd gefn.
Rwy’n ffrindiau mawr gyda’r treib o gathod sydd hefyd wedi troi fyny ar gyfer y cyfnod clo. Rydyn ni’n go debyg, pob un yn troi i fyny amser bwyd , mwynhau y wledd ac yna dianc cyn golchi llestri. Wel dwi o leiaf yn haeddu rhyw fath o wobr am roi lan gyda bywyd hambôn. Ond dyw bywyd hambôn ddim yn rhy ddrwg i fod yn onest, ond peidiwch dweud wrth dad. Dwi wedi hoffi cwmni yr anifeiliaid er gwaethaf yr oen diawledig sydd dal heb cael maddeuant er iddo drio fy nilyn fel cysgod bach. Rhyw ddiwrnod ,y fi fydd yn chwerthin pan y byddaf yn tollti’r ‘mint sôs’ drosto a dweud ‘ti’n cofio’r ffôn gwd boi?’Mae’n reit neis bod yn yr awyr iach-ish , er mae arogl y slyri yn medru bod yn bersawr anffodus ar brydiau.
A dyna fe dwi mynd i’ch gadael chi gan ei bod hi’n amser godro ac mae’r gwartheg yn hoff iawn o gael fy nghwmni erbyn hyn. Mae dad wedi dweud wrthai am beidio a gwisgo fy nghrys chwys coch i fynd i ‘r cae , duw a ŵyr pam. Dwi’n meddwl ei fod yn reit neis i fod yn onest. Beth mae e yn ei wybod am ddillad merched a pha ots os oes yna darw yn y cae? Welai chi nôl yn dre , ar ôl y cyfnod clo. Cadwch yn saff!!!
2. Leisa Grug James, Ysgol Gyfun Penweddig, Ceredigion
Monolog Mali
Mali: Beth oedd yn bod a mynd a Twm i’r Ysgol? On i ddim yn deall, beth oedd y broblem?
Roedd e’n oedran Ysgol, roedd e’n hoffi dysgu, roedd e’n dwlu ar chwarae drwy’r amser (Mali yn troi ei phen i un ochr a sibrwd gyda’i llaw ar bwys ei cheg) a byddai’n joio cinio Ysgol, mas draw!
Efallai dylen i esbonio…..Twm yw fy nghi…..fy ffrind gore……y ci mwya’ pwdr erioed. A dyna pam penderfynais fynd ag e i’r Ysgol, achos roedden i’n gwybod na fydde fe’n achosi dim trwbwl……wel dyna oedden i’n ei feddwl!
A fi…..wel Mali ydw i, dwi’n 13 oed a dwi’n byw ar fferm, (Mali yn plygu eu breichiau a tychan) yng nghanol unman. Dwi’n mynd i Ysgol Penweddig…..dwi’n hoffi’r Ysgol….ond weithiau mae rhai o’r gwersi yn gallu bod braidd yn ddiflas. Meddylies i os bydden i’n mynd mewn a Twm gyda fi, wedyn byddai’r diwrnod Ysgol yn llawer fwy o hwyl!
Ond….(saib)doeddwn i ddim wedi meddwl pethau trwyddo’n iawn. (saib) Fe aeth y diwrnod yn ffradach, fe aeth o ddrwg i waeth!
Dad aeth a fi i ddal y bws, doedd e ddim wedi sylwi bod fy mag Ysgol yn symud lot fawr ac yn gwneud synau od bob hyn a hyn! Roedd y daith ar y bws yn iawn, Twm yn cael llawer iawn o ffws gyda pawb. Fe o’dd seren y dydd a hynny cyn cyrraedd yr Ysgol!
Mi aethon bant o’r bws, mewn a ni trwy’r drws a lan i’r ystafell ddosbarth. Wrth i mi chwilio am fy nghâs pensil, neidiodd Twm allan o’r bag a rhedeg yn syth am y drws a lawr y star tuag at Swyddfa’r Prifathro……(Mali yn ysgwyd ei phen – saib)……doedd dim byd y gallwn ni fod wedi gwneud! Mi welodd Twm, Mr Jones y Prifathro, a neidiodd lan i’w gôl gan roi ei ddwy bawen ffrynt, mwdlyd mawr ar ei grys gwyn glan ef. (Mali yn rhoi ei llaw dros ei cheg ag ysgwyd ei phen)
Roedd hwn yn dric roeddwn i wedi dysgu i Twm ers misoedd, ac i ddweud y gwir roedd hwn yn naid yn arbennig o dda, achos mae Mr Jones yn weddol dal!
“Mali Gwenhwyfar ap Prydderch”, gwaeddodd Mr Jones dros y lle. O’dd rhaid iddo weiddi fy enw llawn i allan o flaen pawb! (Mali yn codi eu breichiau) Roeddwn yn ddigon embaras cyn hynny achos Twm, ond nawr roeddwn i’n goch fel tomato. Bydden i wedi talu mil o bunnau i fod yn rhywle arall….pam fi?? (golau sbot llachar ar Mali)
Beth ddigwyddodd nesa’? (saib) Wel, fel y gallwch chi ddychmygu, roedd Mr Jones eisiau ffonio fy Mam yn syth, roedd yn grac ofnadw gyda fi a Twm!
Gofynnodd i ni’n dau fynd mewn i’w Swyddfa, roedd am i mi wrando ar y sgwrs gyda Mam. Roeddwn i’n crynu mewn ofn (Mali yn crynu). Mi ofynnodd am fy rhif ffôn adre i, dywedais yn dawel (sibrwd gyda llais crynedig)….01974 215634. Clywais y ffôn yn canu yr ochr arall (sŵn ffôn yn canu)….. “Helo….Barbara yma, shwt alla i helpu chi?….” (Mali yn newid ei llais i fod fel ei mham), medde llais Mam yr ochr arall. Yna clywais i Mam yn gweiddi ochr arall y ffôn “Twm?” (Mali unwaith eto yn esgus bod yn Mam).
Ar yr amser hynny, fe gofiais am Twm…..Twm…..ble roedd Twm? (saib – Mali wedyn yn troi ei phen i edrych dros ei hysgwydd dde). O gornel fy llygaid welais i Twm yn codi ei goes ar goeden bae yng nghornel yr ystafell…….O NA!!!!
3. Dafydd Lewis, Ysgol Gyfun Penweddig, Ceredigion
“Fy Niwrnod Anffodus” neu “Cinio tatws a moron”
Fy enw i yw Pwyll. Anffawd yw fy enw canol. Rwy wastad yn rhuthro o gwmpas, sy’n arwain at bob math o helynt. Mae mam wastad yn bloeddio “GAN-BWYLL PWYLL!”
Heddiw ddylen i fod wedi aros yn gwely. Gâi’i egluro…
Danfonodd Mam fi lawr i’r dref i brynu cinio i fi a fy mrawd bach Owain. Rhoddodd hi 20 punt i mi a dwedodd “Cofia brynu bwyd iach. Digon o lysiau.”“Iawn Mam” dywedais ac yna ffwrdd a fi.
Pan cyrhaeddais i’r dref roedd ciw mawr i fynd mewn i’r bwtsiwr felly es i fewn i’r siop teganau cyfagos. Roedd y siop yn llawn o deganau lliwgar a deniadol. Cerddais o gwmpas cyn gweld twb mawr yn llawn o farblis. Codais y twb a tynnu un allan, ond llithrodd allan o fy llaw. Neidiais i ddal y farblen yn hollol anghofio am y twb oedd yn fy llaw arall.
Cyn i fi droi rownd roedd y marblis yn gorchuddio’r llawr a pob cwsmer ar eu penolau. Rhedais allan o’r siop yn gyflym a rhuthro tuag at y bwtsiwr. Clywais lais crac y perchennog yn gwaeddi ar fy ôl wrth i mi ddianc.
Rhuthrais lawr y stryd yn ofni am fy mywyd. Roedd perchennog y siop deganau yn swnio’n grac iawn! Mewn a fi i ddiogelwch siop y bwtsiwr.
Cerddais i allan o’r bwtsiwr yn teimlo’n fuddugoliaethus. Roeddwn wedi prynu pastai mawr, 6 selsigen, 6 byrgyr, ròl bacwn i fwyta ar y ffordd adref a un taten a un moronen i blesio mam.
Cymres frathiad mawr o’r ròl blasus. Mmm! Roedd mor flasus. Dyma wledd.
Yna teimlais ryw deimlad od……rhyw gysgod du tu ôl i fi ac yna crash wrth i rywbeth erchyll daro mewn i’m llaw. Disgynnodd gwylan o’r awyr a bwrw’r ròl i’r llawr.
Cipiodd y gwylan dew a’i big erchyll fy ròl a ffwrdd a fe. Rhedais ar ei ôl ddim yn edrych ble roeddwn yn mynd. Teimlais fy nhroed i’n llithro. Edrychais i lawr a gweld fy mod wedi sefyll ar croen banana! Glaniais i ben cyntaf mewn bin sbwriel! O Na. Beth nesaf?
Clywais i sŵn cyfarth. Yn araf gwthiais fy hun allan o’r bin. Gwelais gi bach tew yn carlamu i ffwrdd lawr y stryd gyda’r siopa a fy nghig yn ei geg! Yr unig beth oedd wedi gadael ar ôl oedd y llysiau.
Roedd hi wedi bod yn fore trychinebus sy’n egluro pam rwyf nawr eistedd wrth y bwrdd cinio yn bwyta un moronen a taten! Nid oedd Mam yn hapus a roedd Owain bach bron a llwgi.
Aeth Mam ac Owain i Macdonalds!!