1. Catrin Edwards, Ysgol Gyfun Aberaeron, Ceredigon

Ar Goll

“Iestyn! Pasiwch!”
Cura’r galon yn gyflym,
y bêl yn agosáu,
yna roedd popeth yn pylu.

Chwyrliodd stêm y paned,
undonedd y newyddion a
thician tawel y cloc blinedig,
yna galwodd y gofalwr o’r gegin.

Traed yn llusgo,
wyneb yn gollwng,
gwên yn diflannu,
Pwy ydych chi?

Beth ydy’r lle yma?
Ble mae Eirwen?
Pryd ydyn ni’n gadael?

“Dai, pasiwch,”
“Dyma chi Iestyn,”
“Gweld chi fory boi.”

 

Ilse Griffiths

2. Ilse Griffith, Ysgol Syr Hugh Owen, Eryri

Y ffrind a chollais

Yn y tywyllwch, llawn llwch a thawelwch,
Gorweddais yn disgwyl, disgwyl, disgwyl amdanat ti,
Ond dwi’n gwybod ti dal yn ffrind i mi.

Misoedd wedyn, dwi dal yn dy fethu di
Ers i ti disgyn, diflannu, hydoddi yn yr aer
Bell i ffwrdd o mi, heb sain na gair.

Mae’r tywyllwch yn fy mwyta i
Help, help, help – achub fi
Fel byswn i’n gwneud i ti.

Yn wyn fel asgwrn, esgyrn brau
Dy wallt yn y gwynt, tybed pwy oedd ar fai?
Wrth agosáu at farwolaeth, yn araf dy lygaid yn cau.

Rwyt ti’n ffrind i mi a dwi’n ffrind i ti
Llawn hiraeth yn breuddwydio amdanat ti
Gobeithio dy fod yn maddau fy nghamgymeriad i.

Dwi’n dweud hyn rŵan
Ond dwi yn dy garu di.
Ac mae’n ddrwg gen i.

Fy ffrind, collais i ti.

 

Boas Davies

3. Boas Davies, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Dinbych

Fy Nghyfaill

Pan welais o gyntaf yn fwndel bach smwt,
Fe gerddodd yn araf wrth hogle ei gwt.
Wrth grynnu yn ofnus a’i lygid bach gwyn,
Mi agorais fy mreichiau yw wasgu yn dyn.

Wrth gryfhau a tyfu mae ei gwmni yn wych,
O hyd yn gwneud giamocs a dwyn preniau sych.
Ei egni sy’n ddi-ddiwedd, ac mae o’n chwim,
Ond hefyd yn disgyn i gysgu, mewn dim!

Yn warchodwr o fri pan ganwyd y gloch,
Mae’n rhedeg a neidio a cyfarth yn groch.
Yn aros am gȋg pan mae Mam wrth y stôf,
Mae cael ei hoff fwyd yn un foment i’r cof.

Pan yn ffermio mae o’n chwarae’n ddel,
Ond weithiau gall redeg ‘rol defaid am sbel,
Ai gynffon i lawr mae en trotian yn ôl,
Ond ni allaf ddwrdio fy ngyfaill bach ffol.

Rhaid rhoi yn ei gwt pan mae’n amser noswylio,
Ai adael lawr grisiau yn swnian a chrio,
Ond pan ddaeth y wawr nai allaf aros,
Does dim croeso tebyg i’r cariad mae’n ddangos.