1. Nyfain Gwyn Prys, Ysgol Gynradd Llandwrog, Eryri

Pellter

Roedd bywyd yn ddiddorol,
roedd llwyth a llwyth a LLWYTH
o bethau hwyl i’w gwneud bob dydd
pan oeddwn i yn wyth.
Mi roeddwn i yn hoffi
cael mynd am dro i’r dre
a mynd i’r siop grempogau
a chael surop dros y lle.

Ni lwyddais i gael parti
na chael fyffrindiau draw
i aros am y noson
pan oeddwn i yn naw.
Trwy’r cyfnod clo yn sownd yn tŷ
a mam a dad yn flin,
a finnau’n treulio’r dyddiau i gyd
yn sownd o flaen y sgrin.

Roedd ’leni’n flwyddyn ddiflas,
roedd Covid yn annheg,
gobeithio’n wir fydd pethau’n well
cyn i mi fod yn ddeg.
Bryd hynny mi wna i wahodd
fy ffrindiau draw am de
a chael llond gwlad o hwyl a sbri
HIP HIP , HIP HIP HWRE!

 

Elen Francis

2. Elen Francis, Ysgol Gynradd Casmael, Penfro

Cymru

Rhwng y mynyddoess a’r môr
Mae mwy na’r defaid a’u côr,
Mae ’na hanes a chwedlau
A phob math o bethau,
Sy’n llenwi’n bywydau’ ddi-dor.

Mae’r canu i’w glywed yn glir
O amgylch ein bryniau a’n tir,
Cantorion byd enwog,
A bandiau mor fywiog,
Yn rhan o draddodiad hen, hir.

Rhwng y coedwigoess trwchus,
Mae ’na adfail hen gestyll arswydus,
Yn eu walydd mae chwedlau,
A phob math o storiau,
Yn atgoffa o amserau cythryblus.

Mae tafod y ddraig dal yn fyw,
A’i iaith dal yma’n ein clyw,
Er gwaethaf y rhwystrau,
Mae’r Gymraeg yn parhau,
Ac yn llenwi y byd gyda’i liw.

Ar draws y tir mae pencampwyr,
Ym myd y chwaraeon-yn arwyr,
Yn gwisgo crys coch
A’n gweiddi yn groch,
Llawn lleisiau y dyrfa mae’r awyr.

Rhwng y mynyddoedd a’r môr,
Mae’na mwy na’r defaid a’u côr,
Mae ’na wlad sy’n llawn gobaith,
Yn wir, sydd yn berffaith,
Sy’n llenwi’n bywydau’n ddi-dor.

 

Ifan Naylor

3. Ifan Naylor, Ysgol Y Wern, Caerdydd, Caerdydd a’r Fro

Enfys Gobaith

Daw cyfle yn fuan, peidiwch â phoeni
Stadiwm llawn a’r ddraig ar dân
Y crysau coch yn gweiddi’n groch
Gweld Cymru’n cipio’r Gamp Lawn.

Daw eto siawns i gerdded a dringo
Gweld machlud haul ar ben Moel Eilion
Fan y big a Phen y Fan fel cewri
Yn barod i groesawu dringwyr sy’n gwenu.

Daw eto cyn hir dymor yr Haf
a’r haul mawr melyn i wenu yn braf
Bydd rhedeg a seiclo a cherdded bob dydd
A chwmni ein ffrindiau i chwarae yn rhydd.

Daw eto cyn hir ar y cae mawr gwyrdd
Y timau pêl-droed a rygbi mawr cryf
Bydd taclo a sgrymio a chicio a sgorio
A phawb yn y tîm yn chwarae a joio.

Daw cyfle yn fuan i fynd i’r traeth
i syrffio a nofio ar y tonnau gwyllt
creu cestyll tywod a dringo creigiau
cael hufen iâ blasus a phicnic campus.

Daw eto cyn hir rwy’n addo ichi
hetiau parti, pop porffor a dawnsio llawn sbri
Ffrindiau yn joio a chanu a rocio.

Daw eto cyn hir peidiwch a phoeni
Calon o gwtshys i bawb yn y tŷ
Bydd teulu a ffrindiau i gyd yn dathlu
Bydd enfyd llawn cariad a chwtsh a chwmni.