Dyn, 24, yn gwadu llofruddio Dean Skillin, 20, ym Mangor
Mae dyn 24 oed wedi gwadu iddo lofruddio dyn 20 oed ger gwesty ym Mangor.
Bu farw Dean Skillin o Gaernarfon yn dilyn digwyddiad ger gwesty’r Waverley ym mis Medi.
Fe wnaeth Bradon Sillence wadu llofruddiaeth, ond pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad pan aeth gerbron Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo.
Bydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar Fawrth 22.
Cyhoeddi cynlluniau diogelwch adeiladau newydd i Gymru
Byddai diwygiadau Llywodraeth Cymru yn rhoi llais cryfach i breswylwyr ar faterion sy’n effeithio eu cartrefi
Darllen rhagorY ffigurau misol uchaf erioed i dudalen Facebook S4C
“Mae’r llwyddiant hwn yn deillio o’n strategaeth i ddatblygu elfennau digidol S4C”
Darllen rhagorDrama am ddwy lofruddiaeth ddwbwl yn Sir Benfro’n denu 6.3m o wylwyr
Luke Evans a Keith Allen yn serennu yn The Pembrokeshire Murders ar ITV
Darllen rhagorCoronafeirws: 16 yn rhagor o bobol wedi marw yng Nghymru (dydd Mawrth, Ionawr 12)
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud yn eu ffigurau dyddiol heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 12) fod 12 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru.
Mae’n golygu bod 3,997 o bobol wedi marw yn y wlad ers dechrau’r ymlediad.
Maen nhw wedi adrodd am 1,332 yn rhagor o achosion, sy’n mynd â’r cyfanswm hwnnw i 172,879.
Ac maen nhw hefyd yn dweud bod 91,239 dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19 wedi’u rhoi, yn ogystal â 97 ail ddos.
Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y caiff y ffigurau eu cofnodi a’u hadrodd.
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 4,963 oedd y ffigwr erbyn Ionawr 1, ond mae’n 5,169 o gynnwys y marwolaethau yn ystod y diwrnodau canlynol.
Dedfrydu cyffurgi 20 oed o Sir Benfro i ddwy flynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc
Mae dyn 20 oed o Gaeriw, Sir Benfro, wedi’i ddedfrydu i dreulio cyfnod mewn sefydliad i droseddwyr ifanc am gyflenwi cyffuriau dosbarth A a B.
Cyfaddefodd Joshua Humphries ei fod wedi bod yn cyflenwi ecstasi, MDMA a chanabis yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wrth ymchwilio i’r achos, daeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys o hyd i ddwsinau o negeseuon ar ffôn Joshua Humphries yn ei gysylltu â chyflenwi cyffuriau i rwydwaith o bobol yn yr ardal.
Aeth gerbron Llys y Goron Abertawe yr wythnos ddiwethaf (Ionawr 7), a chafodd ei ddedfrydu i dreulio dwy flynedd a phum mis mewn sefydliad ar gyfer troseddwyr ifanc.
“Rydym yn gobeithio fod hyn yn gyrru neges i bobol ifanc eraill sydd ynghlwm â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, neu rai sy’n meddwl am gymryd rhan – byddwn yn dod i wybod am eich gweithgareddau ac yn eich erlyn, hyd yn oed os nad oes gennych chi gyhuddiadau blaenorol,” meddai’r Ditectif Gwnstabl Owen o dîm cyffuriau Sir Benfro Heddlu Dyfed-Powys.
Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dychwelyd i S4C
“Mae Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ffordd effeithiol iawn i addolwyr ddod at ei gilydd yn un cynulleidfa fawr ar fore Sul,” meddai S4C
Darllen rhagor28 o yrwyr bysiau Arriva wedi profi’n bositif am y coronafeirws yn ardal Wrecsam
Mae’r cwmni’n annog pob teithiwr i wisgo mygydau wyneb yn sgil yr achosion
Darllen rhagorCyn-bennaeth yr Elyrch yn galw ar glybiau pêl-droed i gadw at gyfyngiadau Covid-19
Trevor Birch yn rhybuddio y gallai gemau orfod dod i ben fel arall
Darllen rhagorDod o hyd i focs du awyren Indonesia
Fe blymiodd i Fôr Java wrth gludo 62 o bobol
Darllen rhagor