Heddlu’n apelio yn dilyn ymosodiad ar ddyn 74 oed yn Rhisga
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn 74 oed yn Rhisga nos Wener (Medi 25).
Fe ddigwyddodd am oddeutu 7.45 rhwng bwyty Indiaidd Tamarind a garej Texaco.
Roedd y dyn yn gyrru Vauxhall Zafira glas ac yn canu ei gorn ar gerddwr gwrywaidd ger y garej.
Taflodd y cerddwr botel at y car cyn neidio ar y cerbyd a tharo’r gyrrwr yn ei wyneb drwy’r ffenest.
Bu’n rhaid i’r gyrrwr dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â’r cerddwr.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.
Ystyried cynlluniau wrth gefn os na fydd modd cynnal etholiadau Holyrood yn 2021
Llywodraeth yr Alban yn gwadu ers tro y byddai’r etholiadau’n cael eu gohirio
Darllen rhagorSteil. Megan Davies
Mae’r profiad o weithio i gwmni ffasiwn a chylchgrawn Vogue ym Mharis wedi dylanwadu ar steil y newyddiadurwraig sy’n byw yng Nghaerdydd
Darllen rhagorTân mewn garej ac unedau diwydiannol yn Abertawe
Mae 75 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi yn dilyn tân mawr mewn garej ac unedau diwydiannol yn Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Pentrechwyth am 10.30 neithiwr (nos Sadwrn, Medi 26).
Cafodd sawl busnes a chartref eu heffeithio, ond chafodd neb ei anafu.
Mae safle un o fusnesau’r ardal wedi’i ddinistrio’n llwyr, a chollodd nifer fawr o gartrefi eu cyflenwadau trydan am gyfnod.
Mae ymchwiliad ar y gweill ac mae Heol Pentrechwyth ynghau am y tro.
Teyrnged Heddlu Llundain i blismon gafodd ei saethu’n farw gan ddyn mewn cyffion
Matt Ratana yn “ymgorffori” rhywun oedd yn gweithio er mwyn amddiffyn pobol eraill, meddai’r Fonesig Cressida Dick, pennaeth yr …
Darllen rhagorAnnog myfyrwyr yr Alban i aros yn eu hystafelloedd
Adroddiadau bod rhai eisoes wedi mynd adref yn dilyn y camau llym i fynd i’r afael â’r coronafeirws
Darllen rhagorLlywodraeth Prydain eisiau “person mawr a chryf” i arwain y BBC
Y llywodraeth yn cael eu cyhuddo o ymyrryd wrth iddi ddod i’r amlwg fod y prif weinidog Boris Johnson eisiau penodi Charles Moore i’r …
Darllen rhagorFfrainc yn addo gwarchod Iddewon rhag eithafwyr Islamaidd
Dau o bobol wedi’u trywanu ger swyddfeydd Charlie Hebdo ddydd Gwener (Medi 25)
Darllen rhagorHanfodol bod y gwasanaethau brys ar gael i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, medd Vaughan Gething
Ysgrifennydd Iechyd Cymru’n cyhoeddi apêl cyn misoedd y gaeaf yn sgil y coronafeirws
Darllen rhagorColli yn Reading yn siomi rheolwr Caerdydd
Ildio goliau’n destun pryder i Neil Harris
Darllen rhagor