Enw: Sion Jewell
Dyddiad geni: 02/07/1997
Man geni: Pontypridd
“Mae bywyd yn rhy fyr i boeni beth mae cymdeithas yn ei feddwl ohonoch chi…”
Petai Sion yn disgrifio’i hun mewn tri gair, bydden nhw’n dweud eu bod yn “berson cwiar, niwroamrywiol, traws ac anneuaidd agored a balch.” Eu hoff ddiddordebau yw gemau, yr amgylchedd, hanes LGBTQIA+ a dadansoddi ffilm.
“Dw i’n agored iawn gyda fy rhywioldeb a’m hunaniaeth rhywedd… Wrth adfer ac arddangos fy hunaniaeth cwiar fel person traws ac anneuaidd, rwy’n gobeithio bod yn esiampl i eraill bod bywyd yn rhy fyr i boeni beth mae cymdeithas yn ei feddwl ohonoch chi, a’ch bod yn werth byw eich bywyd gyda gonestrwydd amdanoch chi’ch hun,” medden nhw.
Mae bod yn anneuaidd a thraws yn golygu nad yw unigolyn yn uniaethu â’r rhyw gafodd ei neilltuo iddyn nhw adeg eu geni. Dyw unigolion anneuaidd ddim yn uniaethu â bod yn ddyn nac yn ddynes.
“Nid yw cyflwyno eich hun i un rhyw a’i ystyr yn gwneud synnwyr i mi, felly mae diffinio eich label eich hun o sut rydych chi’n teimlo y tu mewn amdanoch chi’ch hun yn golygu mwy i mi nag unrhyw adeiladaeth gymdeithasol, swyddogaethol [social, functionalist construct].”
‘Doliau a cheir’
Nid tan oedd Siôn yn eu hail flwyddyn yn y Brifysgol y daethon nhw i gwrdd ag unigolion traws ac anneuaidd.
“Roedd yna ddyddiau lle roeddwn i’n chwarae gyda doliau ac yn gwisgo i fyny fel tywysogesau, ond yna roedd dyddiau lle byddwn i’n chwarae gyda cheir ac yn gwisgo i fyny fel cowbois neu archarwyr.
“Am gyfnod hir, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n gamgymeriad a bod y ffordd roeddwn i’n teimlo amdanaf i fy hun a fy hunaniaeth yn anghywir, ac felly y dylwn i ddal ati i smalio a gobeithio y byddwn yn dod drosto.”
“Cefais ddiagnosis ‘Niwroamrywiol’ ar ôl brwydro anawsterau dysgu pan ddechreuais yn yr ysgol gynradd. Ers cael diagnosis, rwy’ wedi cael trafferthion gyda chydnabod fy niwroamrywiaeth, yn enwedig gan fy mod wedi cael fy mwlio a’m neilltuo yn yr ysgol, sydd wedi achosi llawer o drawma a phroblemau iechyd meddwl ar hyd y blynyddoedd.
“Fodd bynnag, gan fy mod i wedi heneiddio a gweld a chwrdd â phobol fwy niwroamrywiol fel fi, nid wyf yn teimlo cywilydd o fy hunaniaeth gan ei bod yn bwysig i mi gydnabod yr hunaniaeth hon yn falch, er gwaethaf fy heriau yn y gorffennol a’r presennol.”
Maen nhw’n dweud eu bod yn ‘gymhleth’, gan eu bod yn dal i weithio ar eu hunain ac yn ceisio darganfod sut i fyw eu bywyd “y ffordd maen nhw eisiau iddo fod”.
Mae’r daith o gydnabod eu hunaniaeth i Siôn wedi bod yn un droellog.
“Cefais fy nghywilyddio a’m bwlio am actio ‘allan o fy rhywedd’ ers yn blentyn. Pe bawn i eisiau chwarae fel cymeriad gwrywaidd neu wisgo unrhyw beth nad oedd yn ‘ferch’, byddwn yn aml yn cael fy ystyried yn rhyfedd neu’n freak.
“Yn y gorffennol, byddwn yn cymryd y sylwadau yn negyddol ac yn gwneud mwy o ymdrech i weithredu’n fwy fel ‘merch’. Y dyddiau hyn, rwy’n ceisio cwrdd â’r negyddiaeth trwy geisio addysgu pobol am hanes pobol anneuaidd a thraws mewn cymdeithas, a’r hyn mae’n ei olygu i fod yn anneuaidd, er nad yw pawb eisiau cydnabod fy hunaniaeth wir, nac unrhyw beth heblaw ceisio sylw.”
‘Gwarchod’ pobol anneuaidd
Pe bai Siôn yn gallu cael cinio gydag unrhyw un, gyda Greta Garbo fyddai hynny. Actores Swedeg-Americanaidd oedd Garbo, oedd yn seren yn ystod cyfnodau aur tawel a chynnar Hollywood.
“Bydden ni’n trafod ffilmiau, ffasiwn a rhyw, yn bennaf oherwydd fy mod yn ffan o’i gwaith a hanes Hollywood. Ond, yn enwedig gan fy mod yn gallu uniaethu â brwydrau gydag iechyd meddwl a’r awydd i wisgo a gweithredu y tu allan i’m rhywedd penodedig,” medden nhw.
Gobaith Siôn yw gweld pobol anneuaidd a thraws yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, a chael gweld “mwy o straeon am bobol anneuaidd a thraws yn y cyfryngau”, fel bod pobol eraill sy’n ddryslyd am eu hunaniaeth rhywedd yn gallu “adnabod eu hunain a theimlo’n llai unig yn y byd”.
“Ar gyfer fy ngobeithion personol ar gyfer y dyfodol, rwy’n gobeithio parhau i fyw fy mywyd yn onest, gyda fy ffrindiau a’m teulu a gwerthfawrogi a mwynhau bywyd i’r eithaf.”