Mi fydd Llanberis yn fwrlwm o redwyr heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20) wrth i Ras Ryngwladol yr Wyddfa ddychwelyd i’r dref am y 49fed flwyddyn.

Mae’r ras yn cael ei hystyried yn un o’r rhai pwysicaf ym myd rhedeg mynydd, gyda rhai o athletwyr gorau gwledydd Prydain yn cymryd rhan, ochr yn ochr â rhedwyr o’r Eidal a Gweriniaeth Iwerddon. Mae tua 550 o redwyr yn cymryd rhan yn y ras bob blwyddyn.

Y rhedwyr yn Ras yr Wyddfa y llynedd

Eleni, fe benderfynodd y trefnwyr ymestyn cyfnod cofrestru’r ras am wythnos gan ddweud ei fod yn “gyfnod rhyfedd” ym myd digwyddiadau ar hyn o bryd. Fel arfer mae’r ras yn llenwi o fewn ychydig oriau ym mis Mawrth ond roedd llefydd ar gael o hyd y tro hwn.

Dywedodd trefnydd y ras, Stephen Edwards, sydd wedi trefnu 14 ras hyd yn hyn:

“Mae penwythnos Ras yr Wyddfa yn anghredadwy, mae’n rhaid i chi fod yma i allu profi’r bwrlwm. Mae’r ras hon yn golygu cymaint i’r ardal a phobl Llanberis. I feddwl sut mae wedi newid dros yr holl flynyddoedd hynny ers y ras gyntaf yn ôl yn 1976 – mae’n anhygoel a dweud y gwir. Mae’r Ras yn meddwl lot fawr i mi, fel hogyn o Lanberis, sy’n trefnu un o rasys mwya’ eiconig Cymru a’r byd.”

Y tîm o wirfoddolwyr y tu ôl i Ras yr Wyddfa

Ychwanegodd Stephen: “Mae angen i bobl fod yn ymwybodol mai gwirfoddolwyr sy’n trefnu Ras yr Wyddfa. Tîm o wirfoddolwyr sydd wedi bod y tu ôl i’r ras erioed.

“Mae’r set up yn edrych yn fasnachol, fel petai cwmni proffesiynol sydd y tu ôl iddi, ond criw lleol sydd wedi bod yn rhoi o’u hamser eu hunain ers 1976 hyd heddiw er mwyn i bawb gael y profiad o fod yn rhan o un o ddigwyddiadau eiconig Cymru a’r byd.

“Y tristwch mwya’ ydy nad ydy Ras yr Wyddfa yn cael y clod, na’r gydnabyddiaeth gan awdurdodau rhedeg y byd a Llywodraeth Cymru ei bod yn ras gymunedol.”

 

Malcolm Jones o Dremadog ar lethrau’r Wyddfa

Creu hanes

Un rhedwr sy’n gobeithio torri record eleni yw Malcolm Jones o Dremadog sydd bellach yn ei 70au. Fe redodd yn y ras gyntaf un yn 1976 ac mae wedi llwyddo i gwblhau pob ras ers hynny. Felly, bydd Malcolm yn creu hanes eleni fel yr unig berson i gystadlu ym mhob digwyddiad yn ystod y 49 mlynedd ddiwethaf.

Y timau

Gavin Roberts, Tom Wood, Gareth Hughes a Rhys Jones ydy’r pedwar o dîm Cymru – gyda Rhys yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru.

Joe Steward fydd yn arwain tîm Lloegr – fo ydy’r ffefryn i ennill y ras – gyda Grant Cunliffe, Ben Sharrock a Jack Wright yn cwblhau’r tîm.

Mae gan yr Eidal hanes hir o lwyddiant yn y digwyddiad, gan gael pedair buddugoliaeth yn y chwe ras ddiwethaf. Bydd Matteo Rossi, Lorenzo Cagnatti ac Elia Mattio yn teithio i Gymru eleni i drio efelychu’r llwyddiant hwnnw.

Eleni mae tîm yr Alban yn cael ei arwain gan Jacob Adkin, rhedwr rhyngwladol Prydain, ynghyd a Euan Brown, Keiran Cooper a Robin Downie.

Bydd Zak Hanna o Weriniaeth Iwerddon yn dychwelyd eleni a bydd yn cael cefnogaeth gan Aaron McGrady a Matthew McConnell.

Yn cwblhau’r timau rhyngwladol mae Gogledd Iwerddon, gyda Tom Crudgington, Ashley Crutchley, Keith Johnston a Joshua McAtee yn teithio i Lanberis.

Ras y merched

Mae’r frwydr am goron ras y merched yn agored y tro hwn wedi i Sarah McCormack o Weriniaeth Iwerddon dynnu’n ôl yn hwyr o’r ras eleni. Ymhlith tîm y merched o  Iwerddon mae Aoife Courtney a Jo Hickman-Dunne.

Mae gan Gymru dîm cryf gydag Elliw Haf Roberts yn ymuno a Lucy Williamson, Katrina Entwistle a Bethan Logan o glwb Mynydd Du.

Bydd Naomi Lang o’r Alban yn gwneud y daith i Gymru ac yn ymuno â hi bydd Catriona MacDonald, Jill Stephen ac Ella Peters.

Daeth Beatrice Bianchi o’r Eidal yn 3ydd y llynedd a bydd yn gobeithio dod i’r brig eleni. Yn ymuno â hi mae Vivien Bonzi a Luna Giovanetti.

Bydd Phillipa Williams yn arwain tîm Lloegr ynghyd ag Antonia Fan, Alexandra Whitaker ac Eve Pannone.

Yn cynrychioli Gogledd Iwerddon bydd y rhedwraig ryngwladol, Diane Wilson, ac yn ymuno â hi yn Llanberis bydd Tanya Cumming, Catriona Edington a Naomi McCurry.

Rhedwyr iau

Bydd cyfle hefyd i unrhyw un rhwng 10-18 mlwydd oed gymryd rhan yn y rasys iau sy’n dechrau deg munud wedi’r brif ras am 2.10pm, sy’n cael eu trefnu gan dîm Byw Iach, Cyngor Gwynedd.

Bydd cofrestru ar gyfer y rasys yma yn digwydd rhwng 9.30am a 1.30pm yng nghanolfan gymunedol Llanberis.

Bydd y ras yn cael ei darlledu ar S4C a hefyd ar gael ar BBC iPlayer.