Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, colofnydd golwg360 sy’n sgwrsio â menyw hynod…
Enw llawn: Dr. Shasha Wang
Dyddiad geni: 17/10/1977
Man Geni: Xi’an, Tsieina
Cafodd Dr. Shasha Wang, sy’n wreiddiol o Xi’an, Tsieina ei phenodi’n Ddarlithydd mewn Astudiaethau Tsieinëeg ym Mhrifysgol Bangor yn 2016, ac yn ddiweddarach daeth yn Bennaeth Tsieinëeg. A hithau’n ddarlithydd Astudiaethau Tsieinëeg cynta’r sefydliad, cafodd gyfle i sefydlu’r modiwlau israddedig ar gyfer yr holl astudiaethau iaith a diwylliannol Tsieineaidd, gan gynnwys modiwlau ar ffilmiau modern Tsieineaidd, hanes, astudiaethau trawswladol sy’n gysylltiedig â Tsieina, ac o 2018 ymlaen, y radd M.Phil./PhD mewn Astudiaethau Tsieineaidd. Yn ogystal ag Astudiaethau Tsieinëeg, mae hefyd wedi bod yn ymwneud â goruchwylio myfyrwyr M.A. a PhD ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cyfieithu gyda ffocws ar ysgrifennu Tsieinëeg. Dyma ei thro cyntaf yn byw a gweithio yng Nghymru, ac mae hi wrth ei bodd, meddai.
“Y rhan gorau o fyw a gweithio yng Nghymru yw gwneud ffrindiau gyda llawer o Gymry hyfryd a throchi fy hun yn eu traddodiadau a’u diwylliant unigryw e.e. arddangos cennin Pedr yn fy nghartref a mwynhau cacennau cri ar Ddydd Gŵyl Dewi; archwilio’r pentref byd-enwog Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogogoch; a chael rhagor o ddefnydd o’m Cymraeg. Ar nodyn mwy difrifol, dw i’n mwynhau fy nghyfeillgarwch gyda chyd-gristnogion yma yng ngogledd Cymru yn fawr ac mae cael addoli gyda nhw’n fraint.”
‘Wedi grymuso’
A hithau’n Ddiwrnod Rhyngwladol Merched ledled y byd, yn Tsieina ac yng Nghymru, mae Dr. Shasha Wang yn teimlo ei bod hi wedi’i grymuso i gyflawni ei dymuniadau a’i photensial yn llawn.
“Fel menyw sy’n byw ac yn gweithio yn y gymdeithas heddiw, rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso i gyflawni fy mhotensial heb gyfyngiadau a dilyn fy nyheadau. Pe bawn i’n gallu newid unrhyw beth i fenywod heddiw, mynd i’r afael â mater anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau fyddai hynny,” meddai.
Ond, gyda’r darlithydd ac ieithydd wedi byw mewn dau fyd cwbl wahanol, ydy rôl menywod yn y gymdeithas Tsieineaidd a Chymreig yn wahanol?
“O gymharu cymdeithasau Cymreig a Tsieineaidd, mae menywod yn Tsieina yn tueddu i brofi pwysau mwy cymdeithasol. Yn ystod y degawdau diwethaf, mae mwy a mwy o ferched ifanc Tsieineaidd yn dewis peidio â phriodi neu hyd yn oed i fod mewn perthynas. Mae hyd yn oed y rhai sy’n priodi yn dewis peidio â chael plant, sy’n herio’r disgwyliad teuluol traddodiadol Tsieineaidd i fenywod briodi a rhoi genedigaeth, waeth beth yw eu dyheadau gyrfa,” meddai.
Yn y ddwy gymdeithas, dywed ei bod yn ymddangos bod menywod yn dod yn fwyfwy annibynnol, “sydd yn sicr yn beth cadarnhaol a da”.
“Fodd bynnag, mae sicrhau annibyniaeth wrth gynnal lles meddyliol wrth fod ar eich pen eich hun yn gofyn am gefnogaeth gan y gymuned, gweithle, a theulu / ffrindiau.”
‘Parch dwfn at fenywod cyffredin’
Does gan Dr. Shasha Wang ddim merched arbennig mae’n eu hedmygu mewn hanes. Yn hytrach, mae ganddi barch “dwfn at y menywod cyffredin” yn ei bywyd sydd wedi “dangos ymroddiad a gwytnwch yn eu hymdrechion, waeth ydyn nhw’n cael eu cofio gan hanes ai peidio”.
“Os ydyn ni’n edrych ar fenywod mewn hanes, yn enwedig yn hanes hynafol Tsieina, megis yr Ymerodres Wu Zetian (624-705 OC) o linach Tang, yr ymerawdwr benywaidd cyntaf a’r unig fenyw yn hanes Tsieina, a de facto rheolwr Brenhinlin Tang o 665 i 705, roedd hi’n canolbwyntio ar bŵer yn unig. Dyw hynny ddim yn rywbeth dw i’n ei edmygu.”
Ac er bod Cymru tua 7,000km o Tsieina, mae yna debygrwydd o fewn y diwylliannau, meddai.
Traddodiadau
“Yn wir, mae tebygrwydd rhwng diwylliant Cymru a Tsieina. Mae gan y ddwy iaith, ‘Cymraeg’ yn y Gymraeg a ‘汉字 (hân zì)’ yn Tsieinëeg, draddodiadau cyfoethog a pharhaus,” meddai.
“Mae gan Gymru ei hanes llafar ac ysgrifenedig unigryw lle mae barddoniaeth, iaith a cherddoriaeth wedi chwarae rhan sylweddol. Yn yr un modd, mae llythrennau Tsieineaidd, fel system logograffig, yn un o ddulliau ysgrifennu hynaf y byd gaiff ei ddefnyddio’n barhaus, gyda’i wreiddiau’n dyddio’n ôl i ymerawdwr Brenhinlin Shang Wu Ding (1250-1192 CC).
“Yn ystod y dyddiau cynnar, câi ysgrifau eu harysgrifio ar esgyrn oraclau, yn enwedig cregyn crwbanod ych a chregyn crwbanod, er mwyn ceisio atebion i gwestiynau trwy ddehongli craciau ar ôl i’r esgyrn gael eu gwresogi dros dân.”
A 2024 yn ‘Flwyddyn y Ddraig’ yn ôl Calendr y Lleuad, mae yna debygrwydd nodedig hefyd rhwng y ddraig Tsieineaidd a’r ddraig Gymreig, “y ddau yn symbol o rym a chryfder”.
“Mewn diwylliant Tsieineaidd, mae idiomau yn gysylltiedig â’r ddraig sy’n cael eu defnyddio’n aml yn ystod Gŵyl y Gwanwyn i estyn dymuniadau da i eraill (e.e. 龙马精神 (lóng mǎ jīng shén) a 龙腾虎跃 (lóng téng hǔ yuè), ac am fywiogrwydd tebyg i’r dreigiau i deulu a ffrindiau yn y flwyddyn i ddod.”