Enw llawn: Sioned Llewelyn Williams

Dyddiad geni: 29/4/68

Man geni: Wrecsam


Mae’n debyg bod llawer ohonoch wedi gweld neu glywed am Sioned Llewelyn Williams eisoes – yn siarad am ddillad, colur a chynnyrch croen dan handlen SteiLysh @steilysh_ ar gyfryngau cymdeithasol Instagram a Facebook. Dechreuodd y fenter yn ystod y cyfnod clo, ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth fel steilydd personol, ar ôl cwblhau hyfforddiant gyda’r London College of Style.

Petai Sioned yn disgrifio’i hun mewn tri gair, ‘brwdfrydig, bywiog ac amhrydlon’ fyddai’r geiriau hynny, ac mae’n dweud ei bod wedi bod â diddordeb mewn dillad erioed.

“Roedd mam yn hoff iawn o ddillad, lliwiau a defnyddiau. Neshi, yn ifanc, iawn sylweddoli pŵer dillad. Mi all dillad wneud i ni deimlo’n grêt, hapus a hyderus neu ar y llaw arall gipio a dwyn ein hyder. Mae dillad, i fi, yn ffordd o gyfathrebu hefo’r byd heb yngan gair.

“Os yden ni yn ei hoffi neu beidio, mae pawb yn dod i ganlyniad am bawb yn awtomatig mewn llai nag eiliad, ac mae’r farn ene yn cael ei chreu o’n gwisg.

“Dwi’n cofio eistedd yn aml mewn caffi neu yn y car hefo mam yn people-watsio a sylwi ar y dillad. Sylwi ar gerddediad y merched, sut oedd y defnyddiau yn symud. Beth oedd yn gwneud i’r dillad edrych yn cŵl? Beth oedd y rheswm fod rhai merched yn sefyll allan o’r gweddill?” meddai, cyn dweud mai y “pethau bach” fyddai hynny yn aml.

“Pethau fel sut oedd y sgarff wedi ei glymu, ongl yr het, ategolion, gwallt a gwinedd. Nid y dillad smart oedd yn dwyn fy sylw, ond y merched oedd jest mewn jîns, jympar a bŵts.

“Nhw oedd yn drawiadol ac unigryw, drwy ychwanegu sgarff neu golur, breichledau neu bâr llachar o sanau. Roeddwn yn creu cefndir a hanes i’r merched yma. Pwy oedden nhw? Lle oedden nhw’n mynd? Lle oedden nhw wedi bod? Sut gartrefi oedd ganddyn nhw? Be’ oedd eu swydd? Pa siopau fydden nhw’n siopa ynddyn nhw? Eu hoff fwyd a diod, ag yn y blaen. Wrth fy modd…. ac yn dal i wneud hyn yn gyson!

“Yn ifanc iawn, wnes i sylwi mai sgidiau ydi’r peth pwysicaf mewn gwisg. Fel mae carped hyll yn gallu chwalu stafell, mae sgidiau yn gallu gwneud union yr un peth i wisg, yn ogystal â’r gallu i wneud i’r dillad mwyaf plaen edrych yn drawiadol.”

Ond roedd llywio’r ffordd drwy ei harddegau gyda theimladau mor gryf am ddillad a steil ddim yn hawdd i Sioned, ac mi gafodd sawl profiad lle’r oedd ambell i unigolyn mewn cymdeithas fach wledig yn ei ‘mygu’, a hynny am ei bod yn edrych ychydig bach yn wahanol i’r ‘norm’.

“Mi oedd rhai yn ffonio fy rhieni i fy riportio am fod “mor flêr”. Wythdegau’r ganrif ddiwetha’ yden ni’n sôn amdani, nid 80au’r ganrif gynt! Roedd y peth yn hurt bost! Cywilydd arnyn nhw! Cwbl oeddwn i’n ei wneud oedd gwisgo lot fawr o ddillad taid, jympars hir, bŵts mawr, eyeliner tywyll a back-combio ‘ngwallt i greu rhyw nyth brân wyllt…. efallai y byddai ganddyn nhw bwynt taswn i wedi bod yn parêdio strydoedd y Bala mewn bŵts, basque a blŵmars!”

Mae’n cofio gwneud addewid iddi hi ei hun pan oedd yn 13 oed, na fyddai byth yn bihafio fel hyn yn oedolyn.

“Dwi meddwl efallai fod hyn yn rheswm pam ydw i’n dal i yrru ymlaen yn dda hefo pobol ifanc, ac yn aml yn mwynhau eu cwmni nhw yn fwy nag oedolion!”

Diane Keaton, Trinny a Victoria B

Diane Keaton, Trinny a Victoria B yw’r rhai mae’n eu hedmygu yn y byd ffasiwn.

“[Diane Keaton] ydi’r ddynes fwya’ cŵl yn y byd! Dw i’n caru ei steil androgynous – steil sydd yn hawdd ei wisgo, yn gyfforddus, yn siwtio pawb o bob oed, a wnaiff y steil byth ddyddio.

“Mae Trinny wedi bod yn rhan anferth o ’mywyd. Hi oedd y gyntaf i’w dweud hi yn blwmp ac yn blaen yn What Not To Wear hefo Susannah yn nechrau’r 90au. Dw i wedi gwylio pob rhaglen a darllen pob llyfr ganddi. Dwi ddim yn caru ei steil hi nac yn caru sut mae hi’n steilio pobol eraill, nac yn cytuno gyd sawl damcaniaeth mae hi yn eu rhannu am y math o ddillad sy’n gweddu rhai siapiau corff. Ond, er hyn, hi oedd y gwreiddiol. Dw i wedi cwrdd â hi ddwywaith, ac mae hi UNION yr un peth mewn bywyd go iawn…. ofnadwy o dal a main, gwefusau anferth, ac yn un corwynt o egni posh….!

“A son am Posh, dwi’n gwybod bod cyfadde’ hyn yn beth hollol cringy ac uncool i’w wneud, ond fy guilty pleasure ydi steil yr hen Victoria B! Dwi’n meddwl bod ei dillad yn hollol anhygoel – er y prisiau hurt!”

Ciniawa

Tasai Sioned yn gael ciniawa efo unrhyw un, un person yr hoffai gyfarfod â hi yw Nigella Lawson, gan ei bod yn gefnogwr brwd o’i rhaglenni a’i llyfrau.

“Kay am y gigls, a Vernon Kay achos mae’n lyyyfli, doniol a neis i sbio arno!”

Byddai’r cyflwynydd teledu hefyd yn rhoi gwahoddiad i Rylan, am ei fod o’n “neis ac yn ddoniol”.

“Byddwn hefyd wrth fy modd yn cael cwmni Sara Davies o Dragons’ Den, achos dw i’n caru ei hegni, ei hagwedd bositif at fywyd, ac mae hi’n ymddangos yn ddynes hollol hyfryd sydd â’i thraed yn sownd ar y ddaear – er eu llwyddiannau busnes anhygoel. Dwi’n caru y math ene o bobol.”

‘Bydd yn ddewr’

Mae yna lot fawr o bethau y buasai Sioned yn hoffi eu gwireddu.

“Mi faswn i wrth fy modd yn mynd i fyw i Florence am ryw chwe mis dros yr haf, ac i Efrog Newydd mewn fflat hefo golygfa o Central Park dros yr hydref a’r gaeaf! Ond mae gwireddu’r freuddwyd fach yma o ailhyfforddi yn fy mhumdegau a chreu steiLysh yn champion am rwan!”

Un peth efallai nad yw pobol yn ei wybod am Sioned ydy ei bod hi wedi arfer actio ar Pobol y Cwm flynyddoedd yn ôl. Enw ei chymeriad oedd Pat, a Dave oedd ei gŵr.

“Roedd y stori yn ridiculous! Mi oedden ni yn edrych fatha cwpwl reit dodgy, a phawb yng Nghwmderi yn meddwl ein bod ni’n mynd i agor sex shop! Yn ystod y saga yma, dw i’n cofio i ddynes fawr flin daflu cadair ata’i mewn gig, a dweud ’mod i’n warth ar y sianel!! Go iawn, roedd pobol yn rili, rili cas ac yn deud pethau ofnadwy wrtha’i. Hilarious!”


Tasai’r steilydd personol yn gallu rhoi cyngor i’r Sioned ifanc, y cyngor hwnnw fyddai:

  • troi hobi neu ddiddordeb yn yrfa. Edrych mewn iddo a pha ofynion sydd eu hangen ar gyfer hyfforddi yn yr ysgol! (“Mae genna’i andros o ddiddordeb mewn gofal croen a cholur, a taswn i wedi dilyn fy mreuddwyd a sylweddoli ar y pryd pa mor hanfodol fyddai Cemeg, mi faswn wedi gweithio llawer iawn caletach a’i wneud yn bwnc perthnasol i fi)
  • Paid â bod ofn bod yn wahanol
  • Bydd yn ddewr, tria bethau allan, a phaid â bod ofn methu
  • Tydi pawb ddim yn mynd i dy licio, ac mae pobol yn mynd i dy siomi a dy frifo. Mae hyn yn NORMAL!
  • Mae dy farn di yr un mor bwysig â barn pobol eraill. Lleisia hi!