Mae Cymro wedi gwerthu ei gêm gardiau unigryw Gymreig i gwsmeriaid mewn 14 o wledydd ar hyd a lled y byd…

Annog plant i ymddiddori yn chwedloniaeth Cymru yw bwriad y dyn tu ôl i gêm gardiau newydd sy’n llawn cymeriadau hen straeon y wlad.

Gobaith Eifion Rogers, sydd wedi creu gêm Chwedlau Cymru, ydy ei rhoi i bob ysgol yn y wlad fel bod disgyblion ledled Cymru yn dysgu am y Twrch Trwyth, Arawn, Rhiannon a Myrddin.