Yn 27 mlwydd oed, Carmen Smith yw’r aelod ieuengaf erioed i gael ei phenodi yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi.

Bydd hi’n cymryd lle’r Arglwydd Dafydd Wigley, sydd ar fin ymddeol o’i rôl.

Carmen fydd yr unig Aelod Plaid Cymru yn ail siambr San Steffan.

Hi oedd unig enwebiad y Blaid ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi a dywedodd ei bod hi’n edrych ymlaen at yr her o’i blaen.

Er hynny, ychwanegodd nad yw hi’n ystyried ei phenodiad fel swydd am oes.