Dros yr Haf fe ddisgynnodd band newydd o’r nefoedd hwnnw ble mae pop breuddwydiol yn cyfarfod roc meddal y 1970au.

Glaniodd Cyn Cwsg ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad dros fisoedd melys 2023 ac ers hynny maen nhw wedi cefnogi rhai o fandiau mwya’r sîn, ac wedi’u dewis ar gyfer Prosiect Forté sy’n cefnogi a datblygu artistiaid ifanc Cymru.