Enw: Marred Glynn Jones
Blwyddyn geni: 1955
Man geni: Ysbyty Dewi Sant, Bangor, ond cafodd ei magu ym Mrynsiencyn, Ynys Môn
Golygydd llyfrau oedd Marred Glynn Jones cyn ymddeol yn yr hydref y llynedd. Buodd yn gweithio fel Golygydd Creadigol i Wasg y Bwthyn yng Nghaernarfon am unarddeg mlynedd, a chyn hynny, i Wasg Gwynedd am ddwy flynedd. Dechreuodd ei gyrfa yn y byd newyddiadurol a’r byd cyfathrebu; cyflawniadau arbennig o feddwl mai tri phwys yn unig roedd Marred yn pwyso pan gafodd ei geni’n gynnar dros 68 o flynyddoedd yn ôl! Roedd yn rhaid iddi aros mewn crud cynnal yn yr ysbyty am rai wythnosau cyn cael dod adra.
Un o’i hatgofion cynharaf yn blentyn yw ymweliad parti canu carolau’r pentre’ â’i chartre’ ychydig cyn y Nadolig.
“Ro’n i’n cysgu a dwi’n cofio Dad yn dod i mewn i’r llofft, yn fy neffro a chodi fi at y ffenast. Mi wnes i edrych i lawr a gweld criw o bobol i lawr ar y teras yn canu. Roedd y sain yn hyfryd a ro’n i’n meddwl mai angylion oeddan nhw!” meddai.
Caru cŵn
Mae Marred yn caru cŵn. Maen nhw wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed, ac mae’n dweud na allai ddychmygu bywyd heb gi.
“Pan o’n i’n blentyn, ein ci ni oedd sbaniel cocker o’r enw Spike, (roedd Dad yn edmygwr mawr o Spike Milligan!). Fe ddarganfuwyd Spike wedi’i frifo ar dop ein lôn ni, ac fe gafodd gartre’ gyda ni. Pan fu farw Spike chawson ni ddim ci arall am sbel.
“Ond, yna fe ddaeth pwdl bach o’r enw Huw Jôs! Yn dilyn Huw Jôs 1 fe ddaeth pwdl bach arall sef Huw Jôs 2. Ar ôl i mi ddod adra’ o Gaerdydd a phrynu fy ngartre’ fy hun, fe ges i gi yn syth, sef sbaniel bach Cavalier o’r enw Gruff – y ci mwyaf annwyl dan haul! Ac yna, dros y blynyddoedd, fe ges i ddau gi wedi’u hachub, Nel a Liwsi. Tomos Glyn sydd gen i rŵan – sbaniel bach tebyg iawn i Gruff. Mae o’n gariad ac yn llawn direidi a hwyl. Fedrai ddim dychmygu bywyd heb gi!”
‘Llyfr yn fy llaw’
Efallai nad yw’n syndod mai un o brif ddiddordebau Marred yw darllen, ac mae ganddi fwy o amser i wneud hynny nawr ei bod wedi ymddeol.
“Pan o’n i yn yr ysgol gynradd, mi ro’n ’na focs mawr o lyfrau yn cyrraedd yr ysgol bob hyn a hyn – gan y Gwasanaeth Llyfrgell am wn i. Dwi’n cofio hyd heddiw’r cyffro o agor y bocs a chael dewis llyfr. Ro’n i wedi cyffroi gymaint y tro cyntaf ges i agor y bocs, mi wnes i ollwng y caead wnaeth lanio gyda chlec ar fy mhen i! Ond dim ots, y cwbl oedd yn mynd â ’mryd i oedd y llyfr yn fy llaw. Stori am hwyaden fach oedd hi, a dw i’n cofio’r llun ar y clawr.”
Un o hoff awduron Marred ydi Maeve Binchy.
“Mae ei llyfrau hi wedi rhoi gymaint o bleser i mi dros y blynyddoedd. Mae ganddi’r ddawn i greu cymeriadau cyflawn a diddorol ac i hudo’r darllenydd i mewn i’w stori. Efallai bod prif gymeriad mewn un nofel yn ymddangos ar y cyrion mewn nofel arall ac mae hynny’n apelio ata’i. Mae’r cymeriad yna yn hen ffrind ac mae’n braf cael y cyfle i ddal i fyny â hi neu fo. Ci ydi un o fy hoff gymeriadau ganddi – dwi’n caru Hooves!
“Dwi’n siŵr y basa Maeve wedi bod yn gwmni difyr dros swper. Mi fasa ni wedi medru trafod sgwennu a thrafod cymeriadau a dwi’n siŵr y basa hi’n berson ffraeth iawn.”
Mi fuasai’n gofyn i’r newyddiadurwr a’r adolygydd bwyd Jay Rayner (mab yr awdur Claire Rayner) i goginio’r pryd iddyn nhw.
“Mae o’n sgwennu am fwyd ond mae o hefyd yn gogydd da. Ro’n i wedi dotio ar y bwyd wnaeth o ei goginio mewn rhaglen arbennig o’r gyfres MasterChef yn ddiweddar. Ac mae o’n berson ffraeth hefyd gyda hiwmor sych felly dwi’n meddwl y basa ni’n cael lot o hwyl wrth wledda a sgwrsio.”
‘Cynnig gobaith’
Un peth efallai nad yw llawer yn ei wybod am Marred yw ei bod yn hoffi tsiytni mango yn fawr.
“Dwi’n gwirioni ar chytni mango! Mi fydda i’n ei fwyta gyda phob pryd bron (ar wahân i frecwast sef powlen o uwd!). Ac nid unrhyw tsiytni mango, ond un fydda i’n prynu mewn archfarchnad nid anenwog ym Mhorthaethwy. Mae’n rysáit perffaith gyda’r balans rhwng y melyster a’r sbeis yn gweithio’n hynod o dda.”
Petai Marred yn cael dewis byw yn unrhyw le yn y byd, mi fuasai’n dewis Cymru, ond nid ein Cymru ni heddiw, ond “Cymru annibynnol sydd â’r hawl i reoli ei dyfodol ei hun”.
“Breuddwyd, efallai, ond mae’n cynnig gobaith i ni i gyd.”