Fe wnaeth arbenigwr adar enwocaf gwledydd Prydain ddychwelyd i’r sgrîn dros y gaeaf yn rhan o gyfres Winterwatch, yn dilyn cyfnod o salwch.

Ar ôl dioddef trawiad ar y galon y llynedd, methodd gymryd rhan yn Springwatch, ond dychwelodd i’w waith ar ôl pedair wythnos, gan barhau â’r cyflwyno ac arwain teithiau natur ledled y wlad.