Mae arddangosfa newydd yn gyfle i chi ddysgu am hanes y melinau gwlân ac, ar yr un pryd, buddsoddi mewn carthen fodern chwaethus…

Dwy arddangosfa mewn un yw O’r Cnu i’r wŷdd, sydd newydd agor yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhen Llŷn.

Mae un rhan ohoni’n adrodd hanes y diwydiant gwlân yn yr ardal, a’r rhan arall yn cyflwyno gwaith 12 o artistiaid sy’n gweithio gyda gwlân neu frethyn, boed yn wnïo, yn frodwaith, neu’n wehyddu â llaw.