Enw: Iestyn Hughes
Dyddiad geni: Pan oedd ‘Let’s Have a Ding Dong’ gan Winifred Atwell ar frig y siartiau!
Man geni: Yn dechnegol ym Mangor – ond yn fy nghalon, yn Sir Fôn
Un o atgofion cynharaf Iestyn Hughes (yn fachgen ifanc) oedd ‘rhedeg yn wyllt at Mam dan weiddi, i’w rhybuddio i ddianc rhag y pili-pala oedd yn hedfan o’i chwmpas. ‘Ond pam?’ Wel, rhag iddo ymosod arni a’i llowcio, gan ei fod yn ‘byta-fflei’!
Ychydig a wyddai mor ifanc y byddai’n ddiweddarach yn treulio gyrfa lewyrchus yn ymestyn dros ddegawdau yn cofnodi ac awtomeiddio gwahanol gasgliadau yn y Llyfrgell Genedlaethol, 35 mlynedd i gyd, gan weld sefydlu’r hyn ddaeth yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn yr Adran Llyfrau gyda’r casgliadau Celtaidd.
“Fe gefais sioc a sialens aruthrol ar ôl rhyw flwyddyn a hanner wrth gael fy mhenodi i swydd i roi cychwyn ar ‘awtomeiddio’ gwaith y sefydliad. Dyna beth oedd bedydd tân gyda learning curve fel y Grib Goch,” meddai.
Ar ôl oddeutu degawd o gyfrifiadura, cafodd swydd yn yr hen Adran Darluniau a Mapiau gyda ffotograffau a deunydd clyweledol, yn ogystal â swydd weinyddol yn datblygu dull newydd o gynllunio corfforaethol a strategol.
“Roedd yn genadwri gen i ers dyddiau coleg i weld sefydlu’r hyn ddaeth, chwarter canrif yn ddiweddarach, yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.
“Yn ystod fy negawd olaf, fi oedd â’r cyfrifoldeb am sefydlu a rhedeg Archif. Roedd yn waith heriol a chymhleth, ac erbyn y diwedd roeddwn yn dyheu am doriad sylweddol er mwyn arbed fy hunan. Pan ddaeth y cyfle i ymddeol yn gynnar, fe’i cymerais – ond roedd yn un o benderfyniadau anoddaf fy mywyd.”
‘Dysgais fy hun’
Un o brif ddiddordebau Iestyn Hughes yw tynnu lluniau, a daeth yr awydd i ddysgu’r grefft ar ôl sylwi nad oedd ‘dim lluniau teuluol’ ohono wrth iddo dyfu i fyny.
“Doedd dim lluniau teuluol ohonof i – er bod nifer fach o fy mrawd hŷn. Roedd hyn oherwydd bod y camera (Brownie hynafol) wedi torri erbyn i mi gyrraedd, a doedd dim modd nac awydd gan fy rhieni i brynu un yn ei le. Roedd y diffyg lluniau teuluol wastad yng nghefn fy meddwl, ac erbyn i mi fynd i goleg, roeddwn eisiau dysgu sut i dynnu lluniau, gan fenthyg camera ffrind o dro i dro, ond heb fawr o glem sut i’w ddefnyddio.
“Un o’r pethau cyntaf brynais i ar ôl dechrau ennill cyflog oedd camera SLR. Roedd cyfle yn y gwaith i bori ymhlith miloedd o lyfrau ar bob agwedd o ffotograffiaeth. Felly fe ddysgais fy hun drwy gyfrwng darllen, sylwi ar waith ffotograffwyr dawnus, ac arbrofi! Sgwennais raglen gyfrifiadurol i ganiatáu catalogio casgliad ffotograffau enfawr Geoff Charles, ac wrth ddod i’w adnabod o a’i waith a’i weledigaeth dros ddogfennu bywyd Cymru, gadawyd rhywfaint o’i stamp arnaf i.”
Ond, “darganfod, dehongli a rhannu’r byd mae’n weld o’i gwmpas” – Cymru, Cymry, a’r Gymraeg – yw ei ddiddordeb mawr, meddai.
“Doedd gen i ddim bwriad i symud i fyd ffotograffiaeth, ond dyna ddigwyddodd rywsut neu’i gilydd. Fe fues i’n ofnadwy o ffodus i gael cynnig gwaith gan weisg a chan gwmni cysylltiadau cyhoeddus lleol. Roedd y gwaith bron i gyd yn ymwneud ag agweddau ar Gymru neu’r diwylliant Cymraeg. Felly, yn lle camu o swydd brysur i fywyd ymlaciedig, ymddeoledig, fe ffeindiais fy hun weithiau’n gweithio o fore gwyn tan nos ar brosiectau a storïau nad oeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn yn eu hwynebu.
“Rwy’n greadur swil (o ddifri), ac mae’r camera yn gallu creu pont rhyngof a’r bobl sydd o flaen y lens, ac weithiau i’r gwrthwyneb, mae’n gallu creu gofod saff rhyngof a rhywbeth anodd neu ddirdynnol. Mae’r deuddeg mlynedd ffotograffig ddiwethaf wedi bod yn gyfnod arbennig o hapus a chreadigol ar y cyfan – ond ‘wedi’ yw’r gair.”
‘Cyffwrdd ffiniau a gwneud daioni’
Y bobol sy’n ysbrydoli Iestyn yw “y rhai sydd yn cyffwrdd â’r ffiniau ac yn gwneud daioni – megis gwyddonwyr, newyddiadurwyr, dramodwyr, beirdd, ymgyrchwyr dros gyfiawnder, meddygon a nyrsys”.
Petai’n cael gwireddu unrhyw freuddwyd, sgwennu’n greadigol fyddai hynny.
“Yn fy mreuddwydion, rwy’n aml yn troi’r cloc yn ôl a dychmygu sut y byddai pethau wedi bod pe bai amgylchiadau wedi bod yn wahanol. Gan fod y fath beth yn amhosib, fe fyddwn yn bodloni ar geisio gwireddu’r freuddwyd o sgwennu yn greadigol.
“Dilynais gwrs ysgrifennu creadigol yn y coleg, ac oesoedd wedyn fe sgwennais nofel fer ysgafn am helynt ffotograffydd (dim perthynas!), ond fe aeth honno, ynghyd â sawl uchelgais arall, i’r bin.”
Er nad yw’n grefyddol o gwbl, petai’n cael ciniawa gydag unrhyw un o gwbl, gyda’r Pab presennol fyddai hynny, meddai.
“Dw i’n dychmygu nad yw’n bwyta prydau crand na sbeislyd, ac fe fyddai hynny’n fy siwtio i’n iawn. Mae o’n ymddangos yn fwy radical na’n hen rebels anghydffurfiol, a liciwn i glywed ganddo sut y mae wedi llwyddo i newid ethos y tu mewn i gyfundrefn oedd mor geidwadol dan ei ragflaenydd. Os yw hynny’n gofyn gormod, fe fyddai pryd gyda fy mhlant yn ail agos. Maen nhw’n gyson ddifyr, llawn gwybodaeth, yn ffraeth, yn daer ac yn heriol!”