Enw: Elin-Mai Williams

Dyddiad Geni: 1/3/1988

Man Geni: Ysbyty Dewi Sant, Bangor


Mae Elin-Mai Williams yn soprano sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol ar hyd a lled Cymru, yn fam i dri o blant, yn fam faeth, ac yn gweithio fel Dirprwy Reolwr Clinigol. A ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae’n disgrifio pleser y tymor iddi yn blentyn ifanc.

“Mi oedd ’Dolig wastad yn sbesial. Roedd Nain a Thaid ar y ddwy ochr yn dŵad i dŷ ni. Roedden ni’n lwcus ofnadwy i fod wedi cael y pedwar. Taid yn rhoi amlen imi efo ‘goriad ynddo, ‘goriad i dŷ bach yn yr ardd imi chwarae ag o. Dw i’n cofio dysgu reidio beic yn y stryd hefyd, a sleepovers bob penwythnos. Amser hapus braf a di-lol. Ges i fagwraeth amazing! Dim rheolau! Hapus! Cael chwarae allan!”

Un o’i hatgofion melys yw pysgota a “gwneud plu ‘sgota”. Roedd y cyfan yn rhan o fagwraeth rydd, lle’r oedd yna wastad ‘antur’ yn disgwyl amdani tu allan ym myd natur.

‘Teisennau Battennburg a bwrdd smwddio’

Mae ganddi dros 30 tatŵ ar ei chorff bellach, ac mae hi wrth ei bodd yn cael ychwanegiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan ei bywyd, ei theulu a’r hyn mae hi’n ei garu.

“Mae gen i luniau fy nheulu ar fy nghefn, a theisennau Battenburg efo gwialen ‘sgota o’u hamgylch. Mae gen i hefyd beiriant golchi, bwrdd smwddio a fflamingo arna i – a lluniau hefyd mae fy mhlant wedi’u gwneud,” meddai.

Mae’n disgrifio bod yn fam fel y “peth gorau un”, ac fel “taith hapus a llawn hwyl”. Pan ddaw anawsterau i’w rhan, y dric iddi hi yw “cymryd pob diwrnod ar y tro”, meddai. Yn ogystal â hynny, mae’n caru gofalu am eraill fel uwch nyrs a Dirprwy Reolwr Clinigol.

“Y peth gorau ydi bod ganddon ni’r swydd anoddaf yn y byd, ond y swydd fwyaf gwerthfawr. Ddim pawb sy’n medru rhoi eu bywyd i ofalu am rai eraill.

“Mae pawb sy’n gweithio yn y maes gofal yn sbesial iawn ac unigryw. Mae jest cael bod yn rhan fach o fywyd rhywun yn eu gwaeledd jest mor sbesial, a hynny sy’n werthfawr imi. Y fraint o gael bod yno ar y funud waetha’ o’u bywyd a medru lleddfu ychydig o’u poen nhw.

“Roeddwn i’n gwylio ar ôl hogyn gydag anaf ofnadwy i’w ymennydd; yr adeg honno, roeddwn i’n gwybod mai nyrs oeddwn i fod. The rest is history, fel maen nhw’n dweud.”

Pe bai Elin yn cael cyfarfod unrhyw unigolyn byw neu farw, Kurt Cobain fyddai hwnnw, meddai.

“Roeddwn i’n arfer bod yn obsessed efo fo!

“Roedd o’n berson diddorol ofnadwy.”

Ond, mae’n sôn ei bod wedi gwireddu ei breuddwyd oes eisoes.

“Fy mreuddwyd fawr oedd cael bod yn wraig, nyrs ac yn fam – felly dw i wedi cael fy mreuddwyd!”