Enw llawn: Gareth Hugh Evans-Jones (byth yn defnyddio’r ‘Hugh’ – enw teuluol!)
Dyddiad geni: 11/04/91
Man geni: Ysbyty Dewi Sant, Bangor
Mae llawer sy’n nabod yn Dr Gareth Evans-Jones yn ei adnabod am ei ddawn sgwennu rhyddiaith, barddoniaeth a drama. Yn 2018, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn), sy’n dilyn hanesion tri o Iddewon yn ystod yr Holocost.
Ers hynny, mae wedi cyhoeddi cyfrol o ffotograffau a llenyddiaeth farddonol, Cylchu Cymru (Y Lolfa), wedi golygu cyfrol o ffuglen ficro, Can Curiad (Gwasg y Bwthyn ), ei ail nofel, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn) a chyhoeddi blodeugerdd gyntaf llenyddiaeth LHDTC+ yn yr iaith Gymraeg, Curiadau (Barddas), a olygodd.
Mae’n gweithio o ddydd i ddydd fel Darlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Yn enedigol o Ynys Môn, daeth i Brifysgol Bangor yn 2009 i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol. Wedi graddio yn 2012, cwblhaodd M.A. mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, cyn ymgymryd â phrosiect PhD ar y cyd rhwng Ysgol Athroniaeth a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.
Darllen fel “clywed afon yn llifo”
Un o atgofion cyntaf Gareth ydi “gweld llyffant mewn pelen wair yn Llanddona”. Mae hefyd yn cofio “sgwennu mewn rhyw hen lyfr efo hot air balloon coch a’r dydd ar fachlud”.
“Ond wedyn, dim diddordeb mewn sgwennu o gwbl. Roeddwn i wir yn licio meddwl am straeon, am fydoedd dychmygol, am gymeriadau, ond dim mynadd sgwennu am flynyddoedd, tan imi ddarllen Gloÿnnod gan Sonia Edwards fel rhan o gwrs TGAU yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
“Roedd darllen y sgwennu fel clywed afon yn llifo, a gweld gwahanol gerrig dan y dŵr. Ac wrth gerdded ar hyd yr afon eto ac eto ac eto, dyma weld patrymau yn y patrymau oedd yn y cerrig. Diolch i Sonia mi wnes i syrthio’n ôl mewn cariad efo sgwennu a dechrau llowcio llyfrau fel dwn-i’m-be,” meddai.
“Mae dewis hoff awdur yn anodd iawn! Ga’ i dri? O ran awduron Cymraeg, Sonia Edwards, Aled Jones Williams a Waldo Williams. Y tri am eu bod yn ymdrin ag iaith mor dyner, mor drawiadol, ac mor ysgytwol.
“Ac i fod yn ddigywilydd, tri sydd ddim yn sgwennu’n Gymraeg, mae Robert Frost, Lydia Davis a Jay Bernard. Y tri’n awduron gwahanol i’w gilydd, ond yn ymdrin â phynciau a geiriau’n styrbiol o gywrain.”
Doedd ei greadigrwydd ddim yn gaeth i ysgrifennu chwaith, gan ei fod wedi dechrau chwarae gitâr Sbaenaidd pan oedd yn saith oed. Yr hyn sy’n wahanol am y gitâr Sbaenaidd neu fflamenco yw bod y tannau wedi’u gosod yn is na gitâr glasurol i ganiatáu i’r gitarydd bwyso i lawr ar y tannau yn gyflymach i weddu i’r tempo cyflymach o gerddoriaeth fflamenco.
“Dwi ddim yn chwarae mor aml erbyn hyn, ond yn awyddus i ailgydio o ddifri”.
‘Y llenni yn goleuo’
Ond er gwaethaf awch ac awydd Gareth i greu, dyw bywyd ddim heb ei sialensiau, ac mae wedi goresgyn neu ddysgu byw gydag ambell i fwgan yn ei amser.
“Mae yna rai pethau penodol sy’n dod i’r meddwl, ac er fy mod i wedi eu ‘goresgyn’ nhw, neu wedi dysgu byw efo nhw, dwi ddim cweit yn barod eto i sgwennu’n gyhoeddus amdanyn nhw.
“Ond, yr hyn sy’n perthyn i’r gwahanol bethau hynny ydi fy mod i wedi profi adegau pan roedd hi fath â bod yn effro am hanner nos a bys y cloc yn symud dim; jyst yn eistedd yna, yn fys canol o beth ar y bwrdd wrth y gwely. Ac er bod y bys yn cau symud am yn hir, a’r llofft yn mygu, y dillad gwely’n drwm, mi wnaeth y llenni oleuo’r mymryn lleiaf un i ddechrau.
“Bellach, mae’r llenni’n agored a finnau’n medru edrych drwy’r ffenest. Ond, am wn i, nad ydyn nhw’n gwbl agored drwy’r amser chwaith.”
Wrth ofyn iddo lle yw ei hoff le, mae’n cyfaddef mai adra yw hwnnw.
“Ella bod hwn yn ateb diddychymyg i rai, ond fy hoff le yn y byd ydi adra. Fan’no dwi’n teimlo’r tawelaf, yn teimlo’r hapusaf, ac yn teimlo’r saffaf.”