Enw llawn: Catrin Lliar Jones
Dyddiad Geni: 09/02/1972
Man geni: Ysbyty Dewi Sant, Bangor
Er mai fel awdur a Swyddog Marchnata a Chyfathrebu gyda SaySomethinginWelsh mae sawl un yn adnabod Catrin Lliar Jones, mae ganddi lu o ddiddordebau gwahanol – o ysgrifennu i dynnu lluniau â’i chamera, bod yng nghanol byd natur, gwrando ar gerddoriaeth gangsta rap, cerddoriaeth Bollywood ac opera.
“Mae celf yn rhan fawr o fy mywyd, yn enwedig gwneud lluniau gyda phensel a photsian gyda fy nghamera,” meddai.
“Gen i ddiddordeb mawr mewn lliw, golau patrwm a siâp mewn unrhyw beth o bensaernïaeth, i ddillad, i addurno mewnol mewn tai ac i fyd natur!
“Sôn am fyd natur, mae bod allan yn ei ganol, yn rhoi llonyddwch mewnol amhrisiadwy i mi. Mae gen i gariad mawr at adar, yn enwedig adar ysglyfaethus.”
Mae hefyd yn cael pleser mawr o wylio ffilmiau, meddai, ond yr hyn y mae’n ei garu fwyaf yw treulio amser yng nghwmni pobol mae’n eu caru.
“Does yna ddim byd i guro treulio amser yng nghwmni pobol ti’n caru, yn deulu neu’n ffrindiau, yn enwedig dros wydraid a gêm fwrdd neu dros beiriant karaoke. Dw i wrth fy modd cael pobol draw i’r tŷ i rannu bwyd a chwerthin.”
Gwyddom mai Catrin yw awdur Adar o’r Unlliw, ond beth yw ei hatgofion cynharaf o ysgrifennu, tybed?
“Dw i wastad wedi caru straeon a sut mae geiriau yn gallu cael ei gwau at ei gilydd i greu darluniau ac emosiynau,” meddai.
“Ro’n i’n darllen llawer yn fy ngwely gyda’r nos pan oeddwn i’n blentyn, ac wrth fy modd pan oedd cyfleoedd yn dod i wneud bach o sgwennu creadigol yn yr ysgol.
“Yn yr [ysgol] uwchradd, ges i straeon byrion wedi’u cyhoeddi yng nghylchgrawn yr ysgol ac mi o’n i wedi gwirioni! Mewn ffordd ryfedd, dw i’n dal i deimlo’n hynod falch ohonof fi fy hun am hyn, ac mae copïau o’r cylchgronau yn dal i fod gen i!”
Cerddoriaeth a Llundain
Roedd Catrin yn byw yn Llundain yn y ’90au. Mae’n cofio siarad ei ffordd i mewn i gyngerdd Pink Floyd am ddim bryd hynny!
“Roedd hi’n fis Hydref 1994, a’r band yn dod i ddiwedd eu Division Bell Tour. Roedd ffrind i mi oedd yn nabod rhywun oedd yn nabod rhywun wedi bod yn ddigon ffodus i gael tocyn i’w gweld y noson gynt, gyda phàs VIP arbennig. Felly wnes i roi cais arni a mynd gyda’r lanyard VIP, sbectol ffug, llyfr nodiadau a beiro, a smalio bo fi’n newyddiadurwraig gyda chylchgrawn cerddoriaeth o ogledd Cymru.
“Wnes i ddangos fy lanyard VIP i’r boi security a dweud wrtho, drwy ffug banics, fod rhywun wedi dwyn fy nhocyn wrth i mi ddod oddi ar y tiwb, ac os nad oeddwn yn cael fewn i’r cyngerdd yna bysa fy ngolygydd yn flin iawn efo fi. Mi wnaeth y cradur drugarhau a fy ngadael fewn i’r press box i fwynhau cyngerdd anhygoel!”
Flwyddyn yn ddiweddarach, a thrwy hap, wnaeth Catrin gyfarfod yr un swyddog diogelwch eto a chael perthynas barhaodd tua dwy flynedd efo fo.
“Doedd gynnon ni ddim lot yn gyffredin ond bues i’n ddigon ffodus yn ystod y cyfnod i gael mynediad slei i lawer i le VIP, gan gynnwys bod yn yr un gofod â George Michael mewn bar eithaf posh un noson, wnaethon ni ddim torri gair, ond do’n i ddim yn nabod fy hun am hir wedyn.”
Pe bai hi’n cael gwireddu unrhyw freuddwyd o gwbl, mynd yn ôl mewn amser gyda’i phlant i gyngerdd byw Freddie Mercury gyda Queen fyddai honno, meddai, cyn dweud eu bod fel teulu i gyd yn gefnogwyr.
“Chefais i erioed y cyfle pan oeddwn i’n fy arddegau, a thra roedd Freddie dal yn fyw – mae rhannu profiadau newydd efo’r plant yn un o bleserau mwyaf fy mywyd i, a dw i’n dychmygu bysa hyn yn anhygoel!
‘Dysgu licio dy hun’
Un o’r pethau caletaf i Catrin ei oresgyn yw gorbryder, diffyg hyder a hunanwerth, a bwlio.
“Ges i fy mwlio lot yn yr [ysgol] uwchradd, wedyn fel oedolyn yn y gweithle yn fy nhridegau cynnar. Felly dw i wedi brwydro’n hir efo diffyg hyder a diffyg hunanwerth hyd nes, ar un adeg, i mi gael emotional breakdown oedd yn drwm o iselder a gorbryder.
“Peth anodd ydy clywed yr un neges drosodd a throsodd, bo chdi ddim yn ddigon da, a bod pawb arall yn well na chdi. Ar wahân i therapi, ac ar un adeg meddyginiaeth, beth sydd wedi helpu, dw i’n meddwl, yw fy angen i wastad weld y gorau mewn eraill.”
Ar y cyfan, disgrifiai Catrin ei hun fel “person eithaf optimistaidd, sy’n caru’r byd ac yn caru byw ynddo”. Mae’n bwyllog, ac mae Bwdhaeth yn rhan ganolog o’i hunaniaeth.
“Mae dysgu licio dy hun yn beth anodd iawn,” meddai. “Ond, mae modd gwneud hynny efo persbectif iach, a’r sylweddoliad bo’r rhan fwyaf o bobol sy’n dewis brifo eraill, yn gwneud hynny oherwydd bo nhw’n brifo’u hunain.”