Enw Llawn: Mabon Rhys Finch

Dyddiad Geni: Ionawr 30, 1991

Man Geni: Nashville, Tennessee, yr Unol Daleithiau


Ar ôl i ddarlun y Ddraig Goch a’r fflag “ddal ei ddiddordeb” y dechreuodd Mabon Rhys Finch ddysgu’r Gymraeg. Ac yntau 3,745 o filltiroedd i ffwrdd yn Alabama yn yr Unol Daleithiau, dechreuodd ddysgu’r iaith Gymraeg ddeuddeg mlynedd yn ôl drwy ddefnyddio geiriaduron, darllen llyfrau Cymraeg, siarad gyda ffrindiau, defnyddio Facebook a mynychu Cwrs Cymraeg America.

“Dwi’n hoffi’r iaith achos mae’n anghyffredin. Gwelais i’r faner am y tro cyntaf yn 2011 a meddwl y baswn i’n hoffi dysgu mwy am y genedl a’r iaith! Dwi’n dwli ar y gramadeg, y treigladau (ond dwi ddim yn berffaith, hyd yn oed ar ôl deuddeg mlynedd!), a’r sain gyffredinol…” meddai.

Disgrifia’i hun yn fras fel Athro Hanes, Vexillologist (astudiwr baneri), heddychwr Cristnogol a siaradwr Cymraeg. Fel heddychwr Cristnogol, y pethau sy’n digalonni Mabon fwyaf yw “casineb tuag at eraill, trais a rhyfel”, ac mae’n dweud mai ei freuddwyd fawr fyddai “heddwch byd eang”.

Mae’n dysgu Hanes yng Ngholeg Cymunedol Northwest Shoals. Fe raddiodd o Brifysgol North Alabama cyn mynd yn ei flaen i ennill cymhwyster MA yno. Yn ogystal â hanes, un o brif ddiddordebau Mabon yw astudio Baneri. Banereg yw’r enw gaiff ei roi at yr arfer o astudio baneri’n academaidd. Caiff hanes y faner ei archwilio yn ogystal ag unrhyw symbolaeth a dyluniad. Mae’r iaith Saesneg, a sawl iaith arall, yn defnyddio’r gair vexillology o’r Lladin vexillum, am faneriaeth neu fanereg.

“Mae’n ymwneud â hanes. Dwi’n hoffi pob map a baner, ond dwi’n dwlu ar fapiau a baneri hanesyddol. Pethau fel ‘Map Ewrop o 1800’ neu faneri blaenorol cenhedloedd.”

Prynodd ei faner gyntaf yn 2011 a dechreuodd gasglu baneri yn 2013, ac mae’n parhau i wneud hynny hyd heddiw. Mae ganddo oddeutu 450 baner i’w enw bellach.

“Y Ddraig Goch yw fy hoff faner, achos dw i’n dwlu ar ddreigiau a mytholeg y faner,” meddai.

Y ‘freuddwyd’ a Chymru

Disgrifia ei wythnos ddelfrydol fel wythnos yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn ddeng mlynedd ers i mi fod yng Nghymru. Hoffwn i ddychwelyd i ymweld â ffrindiau a gweld safleoedd hanesyddol nad wyf wedi eu gweld,” meddai.

Byddai cael symud i Gymru i weithio fel athro Hanes yn “freuddwyd”, meddai, gan ei fod wedi gwirioni gyda’r wlad a’i hanes.

Un person mae’n ei edmygu’n fawr yw Dorothy Day, ar ôl gweithio yn Minnesota gyda Ty Catholic Worker eleni. Dorothy Day oedd sylfaenydd Mudiad y Catholic Worker. Petai’n cael rhannu pryd o fwyd gydag unrhyw un o gwbl, gyda Day yr hoffai rannu’r pryd bwyd hwnnw.

“Mae hi’n ysbrydoliaeth fawr i mi, am ei gwaith a’i bywyd,” meddai.

Hyd heddiw, mae 187 o gymunedau Gweithwyr Catholig yn yr Unol Daleithiau yn parhau i fod yn ymroddedig i weithredu’n ddi-drais, helpu’r tlawd, gweddïo, a chynnig lletygarwch i’r digartref, yr alltud a’r newynog. Mae Gweithwyr Catholig yn parhau i brotestio dros anghyfiawnder, rhyfel, hiliaeth a thrais yn y wlad.

“Ceisiodd Dorothy newid y byd trwy ofal a chariad, nid gorfodaeth a thrais,” meddai.

“Dangosodd Dorothy ei chariad at Dduw yn wirioneddol trwy ei chariad at ei chymydog.”