Enw llawn: Huw Gwynant Evans

Dyddiad Geni: 15/03/1983

Man geni: Bangor


Mae Huw Evans, sy’n wreiddiol o Gaernarfon ond sydd bellach yn byw ym Manceinion, yn hoff iawn o deithio. Efallai nad yw’n syndod, felly, mai Peilot ydy o wrth ei waith o ddydd i ddydd.

Graddiodd mewn Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Bangor rhwng 2001-2005, cyn dechrau gwersi hedfan yn Ninas Dinlle ger Caernarfon yn ei flwyddyn olaf yn coleg. Ac mae’r gweddill ers hynny wedi profi’n daith a hanner iddo; taith sydd wedi’i weld yn gweithio i gwmnïau mawr y diwydiant hedfan masnachol, fel Ryanair ac Emirates.

Un o’i atgofion cynharaf yw bod ym maes awyr Manceinion yn blentyn yn hedfan i Jersey.

“Wna’i byth anghofio’r wefr ar ôl hynny o gael mynd ar wyliau, ond yn fwy penodol o gael mynd ar awyren. Fedra’i ddim rhoi fy mys yn union ar yr apêl; y maint a’u sŵn ac ar y pryd, rhyw ddirgelwch mawr o’u cwmpas!”

‘Fel plentyn newydd yn yr ysgol’

Ychydig a wyddai bryd hynny y byddai, sawl blwyddyn yn ddiweddarach, wrth y llyw.

“Wna’i fyth anghofio cyrraedd y maes awyr yn Llundain ar gyfer y diwrnod cyntaf yn fy swydd gyntaf fel first officer newydd sbon, yn teimlo fel plentyn newydd yn yr ysgol. O ran y ffleit, i Berlin oedd hi, ond rhwng y nerfau a’r cynnwrf, does gen i fawr o gof.

“Dwi wedi bod ddigon ffodus i deithio’r byd efo fy ngwaith. Mae yna sawl taith yn aros yn y cof, o stormydd grymus Affrica, yr aurora borealis dros begwn y gogledd i deithwyr anystywallt! Roedd hedfan fy rhieni adra o Dubai yn brofiad eitha’ anhygoel hefyd.

“Mae gen i gariad mawr at Hong Kong ers yn ifanc iawn, a dw i wedi bod ddigon ffodus i hedfan yno sawl tro a threulio cryn dipyn o amser yn y ddinas wallgof.”

Ond er ei holl brofiad gwaith, mae’n dweud bod gyrfa yn y maes yn ‘brawf ar ôl prawf’.

“Yn llythrennol ac yn feddyliol, ac yn frwydr i gyrraedd swydd ar ddiwedd y cyfan. Hyd yn oed wedyn, dydy’r profion byth yn dod i ben, sy’n rhyddhad i lawer dwi’n siŵr. Mae hyn yn gallu bod yn gamp ar adegau, ond werth y cyfan yn y pen draw.”

‘Breuder’ bywyd

Ond dyw bywyd heb fod yn fêl i gyd. Er gwaethaf ei anturiaethau lawer, cafodd Huw wybod fod ei fam yn dioddef o ddementia ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Dros y blynyddoedd dwytha’, llwyddodd dementia gael ei grafangau felltith ar fy Mam, ac yn ddiweddar, bu raid iddi fynd i gartref. Afiechyd creulon sydd yn cyffwrdd miloedd ar filoedd o deuluoedd bob blwyddyn.

“Mae’r profiad wedi dangos i mi pa mor frau ydy bywyd a pha mor bwysig ydy hi i beidio gwastraffu eiliad.

“Dw i wedi bod isio gwireddu sawl breuddwyd ar hyd y blynyddoedd, ond bellach, cael gwellhad i ddementia fysa’r freuddwyd.”