Mae cyfarwyddwr newydd y corff sydd yn cynnig arweiniad i’r ugain Menter Iaith sydd gan Gymru yn hyfforddi plant i wneud jiwdo ac yn arbenigwr ar theatr yr Almaen.

Dysgodd rhieni Myfanwy Jones sut i siarad yr iaith Gymraeg pan symudodd y teulu o Loegr i Ledrod ger Tregaron pan oedd hi’n ifanc, a newid iaith yr aelwyd dros nos fwy neu lai.

Yn sgil ei magwraeth, ac yn sylwi ar ymdrech arwrol ei rhieni, magodd Myfanwy werthfawrogiad o bwysigrwydd iaith wrth ffurfio hunaniaeth rhywun.