Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwylliannau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, mae hi’n rhoi sylw i fam sy’n weithgar ym myd ceffylau a ralio ceir…
Enw llawn: Ceri Williams
Dyddiad Geni: 20-09-1983
Man geni: Caerloyw
Mae ceffylau yn llenwi pob rhan o fywyd Ceri, neu Ceri ‘Bach’ fel y caiff ei hadnabod gan ffrindiau, teulu a’r gymuned. Mae’n gwneud synnwyr, felly, mai Ceri yw perchennog Siop Llwynheli Tack Shop, sy’n gwerthu pob math o bethau i wneud â cheffylau.
“Mae ceffylau ym mhob rhan o fy mywyd,” meddai.
“Dw i’n gweithio hefo nhw, magu nhw ac yn marchogaeth.
“Dw i ddim yn gwybod dim byd arall i fod yn onest.”
Roedd ei thaid yn arfer mynd â llefrith o amgylch pentref Rhostryfan ger Caernarfon gyda’i gart a cheffyl, ac mae Ceri yn credu mai dyma sbardunodd ei chariad hithau at geffylau.
“Un o’m huchafbwyntiau fel perchennog oedd cael magu a gwneud prefix fy hun, sef Llwynheli (enw’r fferm adref bellach). Hefo’r cyw cyntaf i mi ei fagu, ‘Llwynheli Welsh Wizard’ sydd yn saith oed rŵan, mi ges y fraint o guro fy nosbarth yn y Sioe Frenhinol flwyddyn yma, a dŵad yn is-bencampwr yr adran Rhan frid.”
Ond nid one trick pony mo Ceri o bell ffordd – diddordeb arall ganddi a rhywbeth mae wedi cyflawni cryn gamp ynddo yw ralio ceir.
“Dwi heb wneud hynny ers dros ddeng mlynedd, ond mi ges orffen fy ngyrfa ar y top,” meddai.
“Mi wnes ennill y rali Valentine yn 2009. Erbyn deall, roeddwn y wraig fenywaidd gyntaf i ennill rali fel dreifar am o leiaf 25 mlynedd. Dwi’n meddwl bod hynny yn parhau i sefyll, ac nad oes merch wedi curo rali yn erbyn dynion wedyn drwy’r wlad.”
‘Breuddwydio’ am fod yn rhieni
Un o’r heriau mwyaf i Ceri a’i gŵr Robin oedd ceisio cael plentyn. Eglura fod y daith heriol honno wedi dechrau gydag IVF yn Lerpwl, ac yn ôl Ceri ni allai “unrhyw un” fod wedi eu paratoi am yr hyn oedd o’u blaenau.
“Yn anffodus i ni, mi gawsom dri chylch IVF a fethodd. Wedyn yn 2017 a 2018 mi gawsom miscarriage yn yr wythnosau cynnar ddwywaith. Mi ddaru’r ddau ohonom gytuno ein bod yn stopio meddwl am freuddwydio am fod yn rhieni a chanolbwyntio ar ein diddordebau cyn efallai meddwl am drio IVF eto.
“Tachwedd 2019 cawsom y sioc fwyaf wrth ddeall fy mod yn disgwyl eto, ac i ffwrdd â ni yn syth i’r doctor. Cawsom bob prawf posib i weld os oedd bob dim yn ocê, a hynny i roi pob cyfle posib i ni gael beichiogrwydd ‘normal’.
“Sgan cyntaf ar Ragfyr 4, a chael gwybod ein bod wedi mynd saith wythnos hefo curiad calon gref, y ddau ohonom hefo bocs mawr o tissues.”
Ond doedden nhw ddim allan o’r twnnel tywyll eto. Roedd rhaid cael prawf DNA i weld bod pob dim yn iawn, gan eu bod wedi colli yn gynt i Gromosom 18/Edwards Syndrome. Ar Ragfyr 24, cafodd Ceri a’i gŵr Nadolig buan ar ôl cael yr all-clear.
Ond erbyn mis Mawrth, roedd Covid-19 yn drwch, a daeth hynny â heriau ychwanegol.
“Doedd bod yn disgwyl, yn wraig ffarm a hynny yng nghanol Covid ddim yn hwyl – y poeni, a gorfod mynd i bob apwyntiad ar fy mhen fy hun,” meddai.
“Roedd bywyd yn annheg iawn i ddynion oedd ar fin bod yn dad.
“Doedden nhw ddim yn cael mynychu apwyntiadau o gwbl. Mi gymrodd hynny ran mawr iawn o’r hapusrwydd i ffwrdd oddi wrthyn nhw.”
Ond daeth tro ar fyd i Ceri a Robin ar Fehefin 24, 2020 pan gawson nhw groesawu eu mab, Gwion Glyn Williams, i’r byd.
‘Peidiwch â cholli ffydd’
“I unrhyw un sydd yn mynd drwy rywbeth tebyg, peidiwch byth â cholli ffydd, a rhannwch eich teimladau bob cyfle gewch chi,” meddai.
“Ac os ydych chi’n nabod rhywun sy’n mynd drwy driniaeth IVF, cofiwch fod yna ddau berson yn mynd drwy’r driniaeth.
“Ro’n i’n gweld pobol yn gofyn i Robin sut oeddwn i, ond doedd dim llawer yn gofyn sut oedd o.
“Ar ôl cael Gwion ac yn dilyn yr holl hormonal stress dros y blynyddoedd, mi gollais fy ngwallt i gyd i Alopecia Universalis.
“Ond beth ydi gwallt pan mae Gwion bach yn ein byd ni yn iach a hapus?”