Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, Crïwr Tref o Lanelwy sydd dan sylw…


Enw: Nia Lloyd Williams

Dyddiad geni: 31/05/1970

Man geni: Llanelwy

 

Adref gyda’i phartner Sarah Lloyd a’u saith cath yw hoff le Nia Lloyd Williams yn y byd. Mae Nia yn gweithio fel Rhagnodwr Cymdeithasol gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yn Sir y Fflint ar hyn o bryd, er ei bod wedi gwneud sawl swydd arall yn y gorffennol, gan gynnwys gweithiwr cymdeithasol a Phrif geidwad Castell Dinbych.

“Mae’r cathod (Shadow, Fluff Bag, Mr Nibbles, Nev, Zuko, Sooty a Puddin) yn annibynnol fel fi. Dydyn nhw ddim yn lot o waith, i ddweud y gwir, ac maen nhw’n rhoi lot fawr iawn o gariad i mi,” meddai cyn mynd yn ei blaen i ddweud nad yw hi’n credu ei bod yn “ddigon cyfrifol” i edrych ar ôl plant neu gŵn.

Crïwr Tref

Ond mae diddordebau personol Nia yn wahanol iawn i’w gwaith dydd i ddydd. Un diddordeb mae wedi’i ddatblygu yw’r grefft o fod yn Grïwr Tref. Fe benderfynodd Nia y byddai’n dda fel crïwr tref oherwydd bod ganddi “lais cryf”. Flwyddyn ddiwethaf, daeth y cyfle perffaith iddi fanteisio arno, ar ôl i griw o bobol oedd eisiau crïwr tref ar gyfer digwyddiad dathlu jiwbilî’r Frenhines ddod i gyswllt efo hi.

“Wnes i brynu’r outfit a wnes i wneud cyhoeddiad ar ben mynydd y gaer yn ymyl lle dw i’n byw, a hefyd mewn parti wedyn,” meddai.

Er nad yw Nia yn grïwr tref swyddogol, mae wedi mynychu sawl parti ac wedi ymarfer y grefft mewn digwyddiadau amrywiol yng ngogledd a de Cymru, ac Ellesmere Port. Yn draddodiadol, roedd y Crïwr Tref yn gwneud cyhoeddiadau neu ddatganiadau cyhoeddus mewn trefi neu bentrefi – roedd y rôl yn bwysig ar adeg pan nad oedd pawb yn gallu darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig yn hawdd.

Yng ngweddill ei hamser rhydd, mae’n rhedeg clwb comedi gyda’i phartner Sarah yn y Rhyl. Sefydlodd y clwb yn 2017 i roi “cyfle i drigolion lleol berfformio” yng ngogledd Cymru. “Rydan ni wedi cyfarfod llawer iawn o bobol drwy’r clwb comedi,” meddai.

Ymhlith yr unigolion iddi eu cyfarfod mae Tony Slattery o Whose Line Is It Anyway? yn yr 80au, a Steve Linton oedd wedi’i hyfforddi gan Ken Dodd.

“Dw i’n licio bod yn centre of attention, felly os ydy rhywun yn rhoi cynulleidfa i mi, dw i wrth fy modd. Dw i wedi perfformio ers pan o’n i’n fach. Ro’n i’n licio gweld fy hun yn dod yn fyw ar lwyfan,” meddai, cyn dweud bod perfformio wedi ei helpu i oresgyn sawl pwl tywyll iechyd meddwl.

Ar ôl y cyfnod clo, penderfynodd Nia a Sarah gyfuno eu talentau drwy berfformio fel act ddwbwl, Lloyd a Williams. Digrifwyr act ddwbwl eraill sydd wedi’u hysbrydoli yw Morecombe and Wise, a Ryan a Ronnie. Ers dechrau’r act, maen nhw wedi perfformio mewn amrywiol lefydd, gan gynnwys Sheffield, Bradford ac yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin.

‘Un cam ar y tro’

Un o’r pethau anoddaf i Nia ei oresgyn yw problemau iechyd meddwl.

“Dw i wedi dioddef o iselder ers blynyddoedd, ac wedi trio dod â diwedd i’m bywyd sawl gwaith. Mater o ‘gymryd un cam ar y tro’ ydi hi, dal i fod, i raddau.

“Dwi’n hynod browd ohonof i fy hun – ’mod i dal yma ac wedi gallu dod yn ôl o fod mewn lle tywyll ofnadwy. Dw i’n falch ’mod i wedi gallu ffeindio’r gobaith a’r cariad mewn bywyd ar ôl cyfnodau yn yr ysbyty.

“Dw i’n gwybod bod yna fwy o’m bywyd y tu ôl i mi nag sydd o’m blaen i, ond dw i’n teimlo bod llawer o flynyddoedd wedi’u gwastraffu pan oeddwn i ddim yn dda. Dw i’n benderfynol rŵan o gymryd bob diwrnod a mwynhau bob elfen o’m bywyd.”

Mae’n sôn i gyfarfod ei chariad Sarah ddeuddeg mlynedd yn ôl “drawsnewid” ei bywyd.

“Rydan ni wedi bod yn gyflwynwyr radio efo’n gilydd, rydan ni rŵan yn gwneud comedi efo’n gilydd. Wnes i glywed llais Sarah ar y radio a syrthio mewn cariad efo’i llais hi yn syth. Maen nhw’n dweud bod yna frân i frân yn rhywle, a dw i wedi ffeindio fy mrân i.”