Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, pregethwr o Gaernarfon sy’n cael sylw…



Enw: Dylan Rhys

Dyddiad geni: 27/01/1989

Man geni: Bangor

 

“Pan o’n i’n blentyn, dw i’n cofio dringo i fyny i bulpud Capel Salem Caernarfon a thrio agor Beibl Wiliam Morgan a’i ddarllen, a methu gwneud, wrth gwrs. Doedd fy nealltwriaeth o Feibl Wiliam Morgan ddim mor dda â hynny yn chwech oed” meddai Dylan Rhys wrth atgofio ei brofiad cynharaf o ymddiddori mewn Cristnogaeth.

Bellach, mae’r Parchedig Dylan Rhys, 34 oed (sy’n wyneb cyfarwydd i rai oddi ar gyfres ddiweddaraf y rhaglen ffitrwydd Ffit Cymru) yn Weinidog ar Ofalaeth Glannau Ogwr Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr a Taberncl Porthcawl. I mi, ‘Dylan Ty Capel’ oedd o gan ei fod yn byw gyda’i deulu yn y Tŷ Capel drws nesaf i Gapel Salem, Caernarfon – ble’r oedd ei fam yn gweithio fel gofalwraig.

Yn blentyn, roedd ‘wrth ei fodd’ efo’r syrcas ac roedd rhaid iddo fynd i bob syrcas oedd yn ymweld â’i filltir sgwâr.

“Ro’n i eisiau bod yn ringmaster ac ambell i waith eisiau rhedeg i ffwrdd efo’r syrcas. Wrth gwrs, perfformio oedd yn mynd â’m bryd i – perfformio a bod o flaen cynulleidfa.”

Tro ar fyd

Yn ddiweddarach, aeth Dylan ati i astudio cwrs Gradd Yr Actor a’r Celfyddydau yng Ngholeg y Drindod (bryd hynny), gyda’r gobaith o fod yn actor neu gyfarwyddwr ym maes teledu a’r celfyddydau.

Ond fe newidiodd popeth pan aeth ar daith Training in Mission i Dde Affrica ac India gyda Chyngor y Genhadaeth Fyd-eang. Mae’r Cyngor yn bartneriaeth o 32 o eglwysi ac enwadau sydd yn cynnwys tua 21.5m o Gristnogion mewn mwy na 50,000 o gynulleidfaoedd mewn 40 o wledydd ar draws y byd. Yn dilyn y daith deg mis, aeth i Goleg yr Annibynwyr ym Mangor i astudio.

“Yn ystod gwasanaeth plannu Eglwys, wnaeth tri o blant bach redeg atai a dweud Dylan, ‘How many churches in Wales do you open every week?” meddai, wrth ddwyn i gof y profiad gafodd o ar y daith fawr.

“Ac roedd rhaid i mi fod yn onest efo nhw a dweud, yn anffodus, fod y sefyllfa yng Nghymru yn golygu ein bod ni’n cau mwy o eglwysi nag yn eu hagor nhw – ac mi wnaeth o edrych i fyw fy llygaid i a gofyn, “Why don’t you share the love of God with people in Wales?

A dyna’r epiffani, os oedd yna un, ddarbwyllodd Dylan ei fod yn cael ei alw i’r weinidogaeth, i fynd yn ôl i Gymru i rannu cariad Iesu Grist gyda gweddill y Genedl.

“Fe draddodais i fy mhregeth gyntaf i’r diweddar Barchedig Euros Wyn Jones, oedd yn athro i mi ar y pryd – pregeth ar unrhyw destun i’w thraddodi o’i flaen ef a’r Parchedig Carwyn Siddall, un o’m ffrindiau gorau. Felly mi wnes i fy mhregeth gyntaf o flaen dau berson. Dwi’n cofio mai Galw Y Pedwar Pysgotwr oedd o ac ro’n i’n pwyso ar y lectern.

“Cyn i mi dorri gair, dyma Euros Wyn Jones yn dweud, “Dim cyfrifoldeb y lectern yna ydi dy ddal di i fyny.” Dwi’n cofio hynny yn iawn, a’r tair pregeth brawf ddigwyddodd wedyn,” meddai cyn dweud y bydd yn cofio’r pregethau hyn am weddill ei oes.

Mae’n sôn i Gapel Salem yng Nghaernarfon ei feithrin yn y ffydd, ac yn dweud bellach ei fod yn galw Ron Williams, ei weinidog, yn Dad yn y Ffydd am iddo fod yn gymaint o gefn iddo yn tyfu i fyny.

Syrffio

Un peth y mae gan Dylan ‘ddiddordeb mawr’ ynddo yw syrffio, ac mae’n bwriadu dechrau yn yr Ysgol Syrffio ym Mhorthcawl yn fuan.

“Dwi wedi bod eisiau syrffio ers o’n i’n hogyn bach ac efallai bod o’n fwy o ddiddordeb rŵan gan ’mod i’n gweld gymaint o bobol yn syrffio ar draethau Porthcawl. Felly, mi fydda i’n cychwyn arni rŵan, yn prynu wetsuit a bwrdd syrffio ac yn dechrau gwersi, gobeithio.”

Breuddwyd arall sydd gan y pregethwr ifanc yw ymweld â chyfandir mwyaf deheuol y Ddaear, Antartica – er nad yw’n gweld hynny’n digwydd yn fuan. “Mae hi mor oer yno, a dw i’n meddwl y byddai’n wych profi hynny,” meddai.

Ers ymddangos ar Ffit Cymru, mae Dylan bellach yn canolbwyntio ar drawsnewid ei fywyd, gan wneud dewisiadau sy’n llesol i’w iechyd. Y cyngor gorau iddo ei gael gan unrhyw un, meddai, yw darn o gyngor gan un o arbenigwyr Ffit Cymru, Dr Ioan.

“Dychmyga wylio ffilm ohonot ti dy hun, a meddylia ’na thi yw’r arwr yn y ffilm honno,” meddai wrth rannu cyngor Dr. Ioan.

“Mae rhaid i ni weld ein hunain yn arwyr yn ein straeon ein hunain, dim ond NI fedr newid ein sefyllfa ein hunain yn y diwedd.”