Bydd ymgyrch Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd am y tymor hwn yn dod i ben gyda dwy gêm dros y dyddiau nesaf, taith i ddinas Kayseri i herio Türkiye amser te ddydd Sadwrn cyn croesawu Gwlad yr Iâ i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth. Gwilym Dwyfor sy’n edrych ymlaen…
Carfan Cymru
Teg galw’r cyhoeddiad carfan diweddaraf braidd yn ddi-fflach, un o’r rhai mwyaf diflas ers tro a dweud y gwir! Nid fod hynny o angenrheidrwydd yn beth drwg cofiwch, mae’n dangos fod Craig Bellamy yn gymharol hapus â’r grŵp o chwaraewyr sydd ganddo. Achos mae’r grŵp hwnnw’n debyg iawn i’r un a ddefnyddiwyd ar gyfer y gemau diwethaf ym mis Hydref. [Gwlad yr Iâ 2-2 Cymru, Cymru 1-0 Montenegro].
Mae Dan James i mewn am y tro cyntaf yn ystod teyrnasiad Bellamy, dyna’r unig newydd mawr. Nid fod hynny’n syndod chwaith, bu DJ yn un o’n chwaraewyr mwyaf cyson Cymru dros y tair neu bedair blynedd diwethaf, felly synnwyr cyffredin a dim arall oedd dod ag asgellwr Leeds i mewn wedi iddo wella o’r anaf a’i cadwodd allan o bedair gêm gyntaf Bellamy wrth y llyw. Mae Rubin Colwill ynddi hefyd ar ôl chwarae’n dda i Gaerdydd dros yr wythnosau diwethaf. Ers i’r Adar Gleision ddiswyddo Erol Bulut, mae Colwill wedi mwynhau ei gyfnod gorau yn y crys glas.
Nid oes neb wedi ‘colli eu lle’ fel petai er mwyn cynnwys Colwill a James. Mae’r garfan hon fymryn yn fwy, a’r unig chwaraewr allanol sydd ddim ynddi’r tro hwn ar ôl bod yn y ddiwethaf yw Oli Cooper, oherwydd anaf. Mae o allan am dri mis yn anffodus ar ôl dechrau’r tymor yn dda iawn i Gymru ac Abertawe.
Tom King am Adam Davies oedd yr unig ‘newid’ fel y cyfryw, un na wnaiff lawer o wahaniaeth gan mai ffeirio un golwr trydydd dewis am yn arall yw hynny. Ond os oedd y garfan wreiddiol braidd yn ddi-bennawd, yna daeth y geiriau… ‘Diweddariad Carfan’! Ychwanegwyd golwr ifanc Fleetwood, David Harrington, ati ddeuddydd yn ddiweddarach, fel pedwerydd golwr. Roedd pawb yn cael cathod bach pan oedd Rob Page yn enwi pedwar golwr ond cafodd y newyddion yma ei groesawu ar y cyfan. A hynny gan fod dirfawr angen gwaed newydd arnom yn y safle penodol yma.
Mae David yn fab i gyn-golwr Caernarfon, Phil Harrington. Gorffennodd Phil ei yrfa yng Nghorc, yno y ganwyd David ac mae o’n gymwys i chwarae dros Iwerddon hefyd. Symudodd i Fleetwood fel golwr ifanc yn 2022, ond y tymor hwn, mae’r llanc 24 oed wedi sefydlu’i hun fel dewis cyntaf y tîm Ail Adran am y tro cyntaf. Bydd y ffaith mai ym mhedwaredd haen Lloegr mae o’n chwarae yn destun pryder i rai ond mae o’n ifanc ac o leiaf mae o’n chwarae’n gyson, sydd yn fwy nag y gellir ei ddweud am y tri arall.
Mae ambell un, fel fi, yn teimlo fod golwr Y Seintiau Newydd, Connor Roberts, yn haeddu cyfle. Mae’r Seintiau’n chwarae yn Ewrop y tymor hwn a go brin fod Fleetwood yn llawer gwell tîm na nhw. Ta waeth, mae Harrington yn dipyn iau felly mae’n debyg mai dyma’r dewis cywir yn y tymor hir.
Yn ogystal â Cooper, mae’r chwaraewyr canol cae, Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu, yn absennol oherwydd anafiadau. Felly hefyd Tom Lawrence, os oedd o o dan ystyriaeth. Mae hi’n fain iawn arnom am chwaraewyr canol cae unwaith eto felly a thipyn o syndod efallai na arweiniodd hynny at gyfle i Charlie Savage, yn enwedig wrth ystyried nad oes gan y tîm dan 21 gemau’r mis hwn.
Wilson ar dân
Yn ôl yr arfer bellach, mae diffyg munudau ein chwaraewyr i’w cybiau yn destun pryder. Mae sgorio Brennan Johnson wedi arafu ers y camp diwethaf ond mae o’n dal i chwarae’n rheolaidd i Spurs. Ac eithrio Connor Roberts (Burnley), Ben Cabango (Abertawe), Chris Mepham (Sunderland), Joe Rodon (Leeds) a Sorba Thomas (Nantes), does yr un o’r lleill yn chwarae’n rheolaidd ar lefel uchel.
Mae Nottingham Forest yn hedfan yn Uwch Gynghrair Lloegr ond eilydd yw Neco Williams yn bennaf. Mae Sheffield United yn hedfan yn y Bencampwriaeth hefyd ond roedd Kieffer Moore yn absennol o’r gêm ddarbi yn erbyn Wednesday dros y penwythnos ac mae anafn wedi ei gadw allan o garfan Cymru. Eilydd yw Rhys Norrington-Davies i’r Blades gan amlaf.
Mae Wes Burns yn cael mwy o funudau na Nathan Broadhead i Ipswich, a fydd yn syndod i unrhyw un sydd wedi gwylio’r ddau dros Gymru. A draw yn Llydaw, mae munudau’n brin iawn i Jordan James gyda Rennes. Mae’r ychydig ymddangosiadau oddi ar y fainc yr oedd o’n eu cael yn gynharach yn y tymor wedi diflannu erbyn hyn.
Un arall sy’n chwarae fawr ddim yw Harry Wilson yn Fulham. Fe wnaethon nhw arwyddo dau Sais ifanc o Arsenal dros yr haf, Emile Smith Rowe am arian mawr a Reiss Nelson ar fenthyg. Mae’r ddau yn chwarae mewn safleoedd tebyg i Wilson ac mae o wedi dioddef oherwydd hynny. Ond fe ddangosodd Harry i’r rheolwr beth yr oedd o’n ei golli yn ddiweddar, yn sgorio dwy gôl wych mewn cameo byr oddi ar y fainc i gipio’r tri phwynt yn erbyn Brentford. Ac yna rhwydo eto oddi ar y fainc mewn gêm ddarbi arall yn erbyn Crystal Palace ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Mae o wedi sgorio’r un faint mewn cwta hanner awr ag y mae Smith Rowe, sydd yn dechrau pob gêm, wedi ei wneud trwy gydol y tymor!
Türkiye
Beth allwn ni ei ddisgwyl gan y gwrthwynebwyr felly? Wel, fe ddylem wybod cryn dipyn am Türkiye erbyn hyn gan mai hwn fydd y pedwerydd gwaith i ni eu hwynebu mewn deunaw mis! Bydd cefnogwyr Lerpwl yn gwybod i Ferdi Kadioğlu sgorio clincar o gôl i Brighton yn Anfield yn ddiweddar. A bydd cefnogwyr Arsenal yn gwybod i Hakan Cąlhanoğlu sgorio unig gôl y gêm wrth i Internazionale eu trechu yng Nghynghrair y Pencampwyr. Mae record sgorio capten Türkiye o ganol cae yn rhagorol, yn well nag un ym mhob pum gêm i glwb a gwlad.
Mae’r seren ifanc, Arda Güler, yn parhau i gael munudau’n bethau prin iawn gyda Galácticos Real Madrid, er eu bod nhw’n chwarae’n sâl iawn ar hyn o bryd. Ond mae’r seren ifanc arall, Kenan Yildiz, yn cael tymor dipyn gwell draw yn yr Eidal, yn chwarae’n gyson i Juventus yn Serie A. Fe sgoriodd o ddwy gôl hwyr i achub pwynt i’w dîm yn erbyn Inter ychydig wythnosau nôl mewn clasur o gêm bedair gôl yr un. Fe sgoriodd o yn y darbi yn erbyn Torino dros y Sul hefyd, chwaraewr sy’n amlwg yn ffynnu ar yr achlysur mawr.
Dau lai adnabyddus sydd wedi gwneud y cyfraniadau mwyaf yn ymgyrch Türkiye hyd yma serch hynny, Kerem Aktürkoğlu ac Irfan Kahveci, y naill wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm, gan gynnwys hatric gartref yn erbyn Gwlad yr Iâ, a’r llall wedi rhwydo dwy. Mae record Aktürkoğlu i’w glwb, Benfica, y tymor hwn yn wych hefyd, wyth gôl mewn deg gêm.
Bydd gan y Tyrciaid fygythiad o flaen gôl yn Kayseri heb os, er gwaethaf eu hanallu i sgorio yn y gêm gyfatebol yng Nghaerdydd.
Gwlad yr Iâ
Fydd hi ddim syndod i chi efallai fod record gartref Gwlad yr Iâ yn dipyn gwell na’u record oddi cartref. Dim ond un o’u chwe gêm gystadleuol ddiwethaf mae’r Llychlynwyr wedi ei cholli gartref. Ond oddi cartref, maent wedi colli pump allan o’r chwe gêm gystadleuol ddiwethaf. Dylid nodi fod yna fuddugoliaeth oddi cartref yn erbyn neb llai na Lloegr yng nghanol y rhediad gwael hwnnw, ond mewn gêm gyfeillgar.
Yn wahanol i’r tro diwethaf i ni eu hwynebu ym mis Hydref, ni fydd Gylfi Sigurdsson yn y garfan y tro hwn. Ond gydag un chwaraewr canol cae 35 oed allan o’r garfan, mae un arall yn ei ôl, rhywun fydd yn gyfarwydd iawn â Stadiwm Dinas Caerdydd, cyn-chwaraewr canol cae’r Adar Gleision, Aron Gunnarsson. Gwyliwch y tafliadau hir yna!
Logi Tómasson a newidiodd y gêm i Wlad yr Iâ yn Reykjavik. Mae Reykjavik yn le bach, a’r noson ganlynol roeddwn i’n digwydd bod yn chwarae darts efo dau o’i ffrindiau! A dyma ffaith ddifyr a ddysgais ganddynt i chi… Yn ogystal â bod yn bêl-droediwr rhyngwladol, mae Tómasson yn gerddor poblogaidd yn ei famwlad, yn rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw Luigi.
Gobeithio na fydd o na’i dîm yn canu pan ddaw’r chwiban olaf nos Fawrth!
Twrci v Cymru ar S4C bnawn Sadwrn, y gic gyntaf am 5pm
Cymru v Gwlad yr Iâ ar S4C nos Fawrth nesaf, y gic gyntaf am 7.45pm