Bu Nigel Farage draw i Gymru i drafod ei obeithion ar gyfer etholiad Seneddol 2026…

Roedd Bwrlwm ar y lôn wythnos diwethaf yn teithio ar yr M4 o Fae Caerdydd i Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Yno, mi roedd Nigel Farage a Reform yn cynnal cynhadledd gynta’r blaid yng Nghymru, a’r neges yn glir.

“Mae Reform yn ddewis credadwy” yng Nghymru, a hynny o gymharu ag UKIP, sef hen blaid Farage.